Ffatri Kasai ym Merthyr i gau gan golli 180 o swyddi
- Cyhoeddwyd
Bydd ffatri sy'n cynhyrchu cydrannau ceir ym Merthyr Tudful yn cau'r flwyddyn nesaf, gyda thua 180 o swyddi'n cael eu colli.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y bydd ffatri Kasai yn cau ym mis Gorffennaf 2021, gan ychwanegu bod hynny'n "newyddion siomedig iawn".
Ym mis Chwefror fe rybuddiodd prif weithredwr Fforwm Moduro Cymru, Tim Williams, y gallai cau ffatri Honda yn Swindon gael "effaith andwyol" ar y gadwyn gyflenwi.
Mae Kasai yn gwneud darnau ar gyfer Honda, Jaguar Land Rover a Nissan.
Mae tua 22% o werthiant y cwmni i Honda.
Mewn datganiad ar y cyd dywedodd Aelod Seneddol ac Aelod Cynulliad yr ardal - Gerald Jones a Dawn Bowden - nad oedd y newyddion yn syndod "o ystyried safle Honda yn Swindon".
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n cynnig cefnogaeth i'r gweithlu a "pharhau i wneud popeth o fewn ein gallu i weithio ar opsiynau arall ar gyfer y safle".