Rhybudd tywydd am eira a rhew dros Gymru

  • Cyhoeddwyd
rhybudd eira

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am eira a rhew ar draws Cymru.

Fe fydd y rhybudd mewn grym o 20:00 nos Fawrth tan 10:00 fore Mercher.

Mae disgwyl i'r cawodydd fod yn gymysgedd o law, cenllysg ac eira ar brydiau, er mai dim ond ar dir uchel mae disgwyl i'r eira ddisgyn.

Bydd rhai mannau dros 200m yn gweld rhwng 1-3cm o eira, gyda rhwng 4-8cm yn bosib ar dir uwch.

Mae rhew yn bosib ar ffyrdd sydd heb eu trin, ac fe allai trafnidiaeth gyhoeddus weld peth oedi.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr eira eisoes yn disgyn dros ardaloedd uchel fel Bwlch yr Oerddrws yng Ngwynedd brynhawn Mawrth