Cyhoeddi rhybuddion tywydd pellach ar gyfer Cymru

  • Cyhoeddwyd
Rhybudd melyn y Swydda DywyddFfynhonnell y llun, Met Office
Disgrifiad o’r llun,

Mae dau rybudd tywydd wedi'u cyhoeddi ar gyfer yr oriau mân ddydd Iau

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd melyn newydd am eira ar draws Cymru dros nos.

Daw'r un cyntaf, am eira a rhew yng ngogledd a chanolbarth Cymru, i rym am 22:00 nos Fercher ac mae'n para tan 10:00 fore Iau.

Mae'n berthnasol i rannau o siroedd Gwynedd, Conwy, Dinbych, Y Fflint, Wrecsam a Phowys.

Bydd yr ail rybudd mewn grym yn y canolbarth a'r de rhwng hanner nos a 12:00 ddydd Iau.

Fe allai hwnnw effeithio ar ardaloedd yn siroedd Blaenau Gwent, Caerffili, Caerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tydfil, Mynwy, Pen-y-bont at Ogwr, Powys, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Mae trafferthion ac oedi i deithwyr yn debygol ar y ffyrdd a'r rheilffyrdd.

Cawod eira yn Rasau, Glynebwy ddydd MawrthFfynhonnell y llun, Gaz Burcher
Disgrifiad o’r llun,

Cawod eira yn Rasau, Glynebwy ddydd Mawrth