Galw i atal ceir ar bafin wedi i ddyn gael ei daro

  • Cyhoeddwyd
Steve lawrenceFfynhonnell y llun, RNIB
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Steve Lawrence yn ceisio osgoi ceir ar y pafin pan gafodd ei daro gan un ohonyn nhw

Mae dyn dall gafodd ei daro gan gar ar bafin yn dweud iddo ddioddef poen am fisoedd wedi'r digwyddiad.

Roedd Steve Lawrence, 62 oed o Donysguboriau, yn ceisio osgoi ceir oedd ar y pafin pan geisiodd un ohonyn nhw yrru i ffwrdd gan ei daro.

Ychwanegodd Mr Lawrence fod y gyrrwr wedi rhegi arno cyn gyrru i ffwrdd.

Cafodd ei ffon wen ei malu ac fe gafodd anaf drwg i'w ysgwydd, ac mae'n dweud ei fod bellach yn "nerfus o gerdded" nôl o'r siopau.

Ymunodd ag ymgyrchwyr eraill i alw am wahardd pobl rhag parcio ar y pafin yng Nghymru.

Mae'r arfer eisoes yn anghyfreithlon yn Llundain, ac mae Senedd Yr Alban yn bwriadu creu deddfwriaeth i'w wahardd yn ddiweddarach eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Mae parcio ar y pafin eisoes yn anghyfreithlon yn Llundain, ac mae Senedd Yr Alban ar fin pasio deddf i wahardd yr arfer yno hefyd

Ym mis Gorffennaf fe wnaeth Llywodraeth Cymru sefydlu tasglu i ystyried sut i atal pobl rhag parcio ar y pafin.

Dywedodd Mr Lawrence, sydd wedi bod yn ddall ers 2014, ei fod wedi cael trafferth osgoi ceir ar y pafin o'r blaen, ond bod y digwyddiad yma yn Rhagfyr 2019 wedi ei ysgwyd.

Nid oedd yn medru adrodd i'r heddlu am y digwyddiad gan nad oedd yn medru gweld y gyrrwr na rhif y car. Roedd angen triniaeth ffisiotherapi ar ei ysgwydd.

"Rwy'n annibynnol iawn ac yn hyderus yn cerdded ar ben fy hun fel arfer, ond mae hyn wedi fy ngwneud yn nerfus o gerdded yn yr ardal yna am gyfnod," meddai.

"Rwy'n poeni y bydd pobl eraill sy'n ddall neu'n rhannol ddall mewn sefyllfa debyg yn colli hyder ac yn llai tebyg o adael eu cartref o ganlyniad."

Adroddiad tasglu

Mae elusen RNIB Cymru yn dweud fod cael pafin clir yn hanfodol i bobl ddall neu rannol ddall ac y gallen nhw gael eu hanafu'n ddifrifol.

Dywedodd Kirsty James o'r elusen: "Mae llawer o bobl ddall neu rannol ddall yn taro yn erbyn ceir sydd wedi parcio fel hyn... ar y gorau maen nhw'n gallu colli hyder ac annibyniaeth, ac ar y gwaethaf fe allan nhw gael niwed."

Mae tasglu gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i edrych ar y mater i fod i gyhoeddi adroddiad yn ddiweddarach eleni, ond mae gweinidogion eisoes wedi awgrymu nad cosbi gyrwyr yw'r ateb gorau gan yn aml does ganddynt ddim dewis ond parcio ar y pafin ger eu cartrefi.

Mae mudiad Living Streets Cymru wedi galw am waharddiad cyffredinol, heblaw am ganiatáu parcio ar y pafin mewn strydoedd penodol.

Fe wnaeth yr elusen gynnal arolwg diweddar oedd yn awgrymu fod chwarter y bobl dros 65 oed yng Nghymru yn cael eu hatal rhag cerdded ar y pafin ar eu strydoedd lleol oherwydd rhwystrau.