Y Bencampwriaeth: Fulham 1-0 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Sgoriodd Aleksandar Mitrovic yn y 94 munud i amddifadu Abertawe rhag sicrhau pwynt yn Craven Cottage.
Munud cyn ei gôl, roedd yr ymosodwr o Serbia wedi methu gyda chic o'r smotyn, gyda Freddie Woodman yn arbed ei ergyd.
Daeth y gôl fuddugol o groesiad Aboubakar Kamara.
Cyn hynny roedd yr Elyrch wedi brwydro'n galed i wrthsefyll Fulham sy'n drydydd yn yr adran.
Daeth cyfleoedd hefyd i'r ymwelwyr, gyda Ayew yn teimlo ei fod yn anlwcus i beidio ennill cic o'r smotyn, wrth iddi ymddangos iddo gael ei faglu gan Denis Odoi.
Daeth cyfle hefyd i Jake Bidwell ond aeth ei beniad heibio'r postyn.
Golygai'r canlyniad fod Abertawe yn aros yn y nawfed safle, gyda phum pwynt o fwlch rhyngddynt a safleoedd ail-gyfle'r Bencampwriaeth.