Y Bencampwriaeth: Blackburn Rovers 2-2 Abertawe
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth gôl hwyr Bradley Johnson sicrhau pwynt i Blackburn Rovers yn erbyn Abertawe ar Mharc Ewood brynhawn Sadwrn.
Sam Gallagher roddodd Blackburn ar y blaen, ond daeth Rhian Brewster ac Abertawe yn gyfartal toc cyn hanner amser.
Aeth Abertawe ar y blaen ar ddechrau'r hail hanner diolch i cic o'r smotyn gan Andre Ayew, ac fe lwyddodd golwr yr Elyrch Freddie Woodman arbed cic o'r smotyn gan Danny Graham ar ran y tîm cartref wedi hynny.
Ond yn ystod amser ychwanegol fe sicrhaodd Johnson bwynt i dîm Tony Mowbray, gyda Abertawe yn ildio gôl hwyr yn yr ail gêm yn olynol.
Mae Blackburn yn wythfed yn y bencampwriaeth ac Abertawe yn parhau'n y nawfed safle.