Arolwg barn yn awgrymu ansicrwydd yn etholiadau'r Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
blwchFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid yw'r gefnogaeth i ddileu'r Cynulliad yn dangos fawr o newid o'i gymharu â'r llynedd ac mae'n 14% - cynnydd o un pwynt canran.

Fe allai Cymru wynebu cythrwfl gwleidyddol ar ôl etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf, yn ôl awgrym gan arolwg barn ar gyfer BBC Cymru.

Yn ôl arolwg barn blynyddol Dydd Gŵyl Dewi, gallai tair plaid ennill nifer debyg o seddi - Llafur yn cipio 21, y Torïaid 20 a Phlaid Cymru 18.

Cwmni ICM Unlimited wnaeth gynnal yr ymchwil, sydd am y tro cyntaf yn cynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed.

Mae'r arolwg barn hefyd yn awgrymu cynnydd yn y gefnogaeth i annibyniaeth, hyd at 11% I fyny o 7% y llynedd.

Pobl ifanc 16 a 17 oed

Nid yw'r gefnogaeth i ddileu'r Cynulliad yn dangos fawr o newid o'i gymharu â'r llynedd ac mae'n 14% - cynnydd o un pwynt canran.

Rhybuddiodd ICM fod bobl angen rhoi mwy o ystyriaeth i'r pôl hwn yn y ffaith bod sampl gwahanol i flynyddoedd blaenorol, gan bod pobl ifanc 16 a 17 oed wedi'u cynnwys yn yr holi.

O 2021, o dan ddeddfwriaeth newydd, bydd gan bobl ifanc 16 a 17 oed yr hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad am y tro cyntaf.

Yn etholiadau'r Cynulliad y flwyddyn nesaf, ar bleidlais yr etholaeth, mae darogan y bydd Llafur a'r Ceidwadwyr yn derbyn 31% o'r bleidlais, Plaid Cymru 26% a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar 6%.

Yn y bleidlais ranbarthol mae darogan y bydd Llafur yn derbyn 31% o'r bleidlais, y Ceidwadwyr ar 29%, Plaid Cymru ar 25% a'r Democratiaid Rhyddfrydol ar 5%.

Roger Awan-Scully
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Roger Awan-Scully sy'n gyfrifol am wneud y rhagamcanion

Mae'r Athro Roger Awan-Scully, Pennaeth Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi gwneud y rhagamcanion yn seiliedig ar symudiad cenedlaethol ers Senedd 2016.

Wrth sôn am yr arolwg barn dywedodd Vaughan Roderick, golygydd Materion Cymreig BBC Cymru: "Cipluniau nid rhagfynegiadau yw arolygon barn ond gallai Cymru fod yn wynebu cyfnod o gythrwfl gwleidyddol digynsail os bydd y rhaniad gwleidyddol tair ffordd rhwng Llafur, y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn parhau i'r flwyddyn nesaf.

"Mae'n anodd gweld pa fath o lywodraeth a allai ddeillio o gynulliad lle mae gan y tair blaid nifer cyfartal o seddi.

"Byddai Plaid Cymru yn annhebygol o gefnogi plaid Lafur sydd ar chwal, tra byddai cefnogi gweinyddiaeth dan arweiniad y Ceidwadwyr yn amhosibl yn wleidyddol i Llafur a Phlaid.

"Mewn amgylchiadau o'r fath efallai y bydd y Cynulliad yn cael eu gorfodi i bleidleisio i ddiddymu ei hun a chynnal etholiad o'r newydd mewn ymgais i ddatrys y cyfyngder ".

Ychwanegodd: "Mae'n bwysig nodi bod yr arolwg barn hwn yn cynnwys pobl ifanc 16 a 17 oed yn y sampl gan y byddant yn cael pleidleisio yn etholiadau'r Cynulliad 2021 am y tro cyntaf erioed".

Mae cefnogaeth i annibyniaeth Cymru yn cyrraedd yr uchafbwynt mewn naw mlynedd, gydag 11% yn dweud eu bod yn credu "y dylai Cymru ddod yn annibynnol, ar wahân i'r DU" - sydd i fyny 4% o'i gymharu â 2019.

SeneddFfynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd Vaughan Roderick: "Nid yw'r cynnydd yn y gefnogaeth i annibyniaeth yn ddibwys ond mae'n werth nodi bod cefnogwyr annibyniaeth yn dal i fod yn llai na'r rhai sy'n gefnogol i weld y Cynulliad yn cael ei ddiddymu'n llwyr."

Fe ddefnyddiodd ICM Unlimited sampl gynrychioliadol o 1,000 o bobl 16+ oed dros y ffôn, ac fe gafodd yr arolwg ei gynnal rhwng 4-22 Chwefror 2020.

Cynhaliwyd yr arolwg ledled Cymru ac mae'r canlyniadau wedi'u pwysoli i broffil holl oedolion Cymru.

Mae ICM yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau.