Dihangfa i deulu wedi i goeden syrthio ar eu car

  • Cyhoeddwyd
Car Paul Mee wedi i'r goeden syrthioiFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ynys Môn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Paul Mee ei fod wedi brecio'n galed wrth weld bod y goeden yn syrthio

Mae gyrrwr wedi disgrifio'i ryddhad bod ef a'i deulu wedi osgoi unrhyw anafiadau pan syrthiodd coeden ar eu car yn ystod Storm Jorge.

Roedd Paul Mee yn gyrru ar hyd yr A545 rhwng Porthaethwy a Biwmares nos Sadwrn - ardal sy'n cael ei nabod fel troadau'r Garth.

Fe laniodd y goeden ar flaen y car yr oedd newydd ei brynu, ac sydd bellach wedi ei ddifrodi gormod i'w atgyweirio.

Gan fod y ffordd yn rhan o lwybr hanner marathon Môn, bu'n rhaid addasu'r ras cyn ei chynnal ddydd Sul.

Sioc

"Ro'n i'n gyrru wrth i'r goeden syrthio," meddai Mr Mee.

"Ges i gip ar y canghennau uchaf yn dod i lawr a fy ymateb oedd i frecio'n galed.

"Roedd yna sioc wedi hynny a rhyddhad ein bod ni'n gallu dod allan o'r car."

Ffynhonnell y llun, Steve Barnard
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd y teulu i adael y cerbyd yn ddianaf

Roedd Steve Barnard, gwirfoddolwr gyda'r RNLI ym Miwmares, yn y cerbyd y tu ôl i'r teulu, gyda'i wraig Danielle, pan ddigwyddodd y ddamwain tua 21:30.

Ni welodd y goeden yn syrthio ond fe welodd y canlyniad wrth yrru heibio'r troad.

"Wrth i ni droi'r gornel roedden nhw yn dod allan o'r car,"meddai.

'Bonet y car yn rhacs'

"Wnaethon ni'n siŵr eu bod yn iawn a bod dim un cerbyd arall yn dod rownd y gornel ar gyflymder.

"Roedd bonet a blaen y car yn rhacs, yr airbags i gyd wedi'u llenwi ac un o'r drysau wedi ei wthio'n agored.

"Gallai pethau yn bendant wedi bod yn llawer gwaeth."

Roedd Mr Mee a'i deulu "wedi ymdopi'n dda" â'r digwyddiad, yn ôl Mr Barnard.

Ychwanegodd ei fod wedi symud y teulu i'w gar yntau "i'w cadw'n gynnes" wedi'r digwyddiad, a'i fod wedi rhoi cyngor iddyn nhw ar "sut i ofalu am eu hunain ac i gadw golwg am arwyddion o sioc".