Pennaeth Ysgol Friars yn gwadu honiadau ymddygiad
- Cyhoeddwyd
Mae gwrandawiad i honiadau am ymddygiad prifathro amlwg o Wynedd wedi clywed fod pobl "unai yn ei giang neu doeddech chi ddim", am y ffordd yr oedd yn rhedeg yr ysgol.
Mae Neil Foden, pennaeth Ysgol Friars ym Mangor, yn gwadu tri honiad o ymddygiad proffesiynol annerbyniol mewn cysylltiad â'r ffordd y gwnaeth drin staff rhwng Ebrill 2014 a Hydref 2016.
Fe honnir ei fod wedi dweud mewn geirda llafar am athro fod yr unigolyn yn wynebu cyhuddiad o gamweithredu, pan roedd yr unigolyn wedi ei glirio o unrhyw gam mewn gwirionedd.
Mae Mr Foden hefyd wedi ei gyhuddo o weithredu proses ddisgyblu yn erbyn un athro penodol wedi i drip i glwb pêl-droed Fulham gael ei ganslo, ac yna cyfeirio at yr athro dan sylw fel "baby face" wrth gadeirydd y llywodraethwyr.
Yn ddiweddarach y flwyddyn honno fe ddywedodd wrth gyfarfod llywodraethwyr fod yr athro hwnnw'n "adnabyddus i'r heddlu".
Proses ddisgyblu
Mae hefyd wedi ei gyhuddo o drin un athro yn annheg gan ddechrau proses ddisgyblu yn ei erbyn am y ffordd yr oedd wedi trin disgybl oedd yn tarfu ar asesiad oedd wedi ei reoli.
Cafodd yr athro ei glirio o unrhyw gam yn ddiweddarach wedi iddo apelio.
Mewn gwrandawiad yn Ewlo ddydd Llun rhoddodd yr athro yma, oedd yn cael ei ddisgrifio yn yr achos disgyblu fel "person D", dystiolaeth i'r panel.
Dywedodd: "Roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy erlid gan Neil Foden am y ffordd yr oedd yn gweithredu. Roeddech chi yn ei gang neu doeddech chi ddim."
Ychwanegodd yr athro, oedd wedi dysgu bioleg yn yr ysgol rhwng Medi 2010 a Mai 2018 fod disgyblion yn cymryd rhan mewn asesiad yn 2016, ond bu'n rhaid iddo symud disgybl i ystafell arall am ei fod yn tarfu ar yr asesiad.
Yn ddiweddarach fe ddechreuodd Neil Foden gamau disgyblu yn ei erbyn gan roi rhybudd ysgrifenedig iddo. Cafodd yr athro ei glirio o unrhyw gam yn ddiweddarach ar ôl apelio.
Dywedodd person D wrth y gwrandawiad: "Ches i ddim fy nghyfweld. Fe ddefnyddiodd yr ysgol ddatganiad nes i ei ysgrifennu pan gwynodd mam y disgybl. Fe ddefnyddiodd Neil Foden ei ferch ei hun fel swyddog ymchwilio oedd yn dangos gwrthdaro buddiannau yn fy marn i."
Canlyniadau asesiad
Fe ddywedodd fod agwedd Mr Foden ato wedi newid yn Hydref 2014 pan gododd gwestiynau am y ffordd yr oedd yr ysgol yn cofnodi canlyniadau asesiadau fel bod nifer fach o fyfyrwyr yn derbyn graddau nad oedden nhw i fod i'w cael.
Dywedodd cyfreithiwr Mr Foden, Jonathan Storey, wrth y gwrandawiad fod hwn yn achos anarferol "gan ei fod yn ymwneud â phennaeth o ragoriaeth a phrofiad anarferol sydd wedi arwain ei ysgol ers dros ddau ddegawd."
Mae disgwyl i wrandawiad Cyngor y Gweithlu Addysg bara gweddill yr wythnos.