Arian i arfogi mwy o heddweision gyda gynnau Taser

  • Cyhoeddwyd
TaserFfynhonnell y llun, PA Media

Bydd heddluoedd Cymru'n derbyn dros £575,000 gan y Swyddfa Gartref er mwyn arfogi mwy o swyddogion gyda gynnau Taser yn y dyfodol.

Bydd 41 o luoedd drwy'r DU yn derbyn £6.7m a gobaith llywodraeth San Steffan ydy galluogi dros 8,000 o swyddogion i gario gynnau Taser yng Nghymru a Lloegr.

Fe fydd Heddlu Dyfed-Powys yn derbyn £99,000 ar gyfer 120 o ynnau Taser, gyda Heddlu Gwent yn derbyn £66,000 ar gyfer 80 o ynnau, a Heddlu Gogledd Cymru yn derbyn £137,775 ar gyfer 167 Taser.

Heddlu De Cymru sy'n derbyn y cyfanswm mwyaf - gyda £273,075 yn cael ei glustnodi ar gyfer 331 dryll Taser i'r llu.

Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel: "Mae'r twf yn niferoedd yr ymosodiadau ar swyddogion yn ddychrynllyd ac mae Taser yn ddewis hanfodol mewn sefyllfaoedd peryglus.

"Rwyf wedi fy ymrwymo i ddarparu'r grymoedd, adnoddau ag arfau sydd eu hangen ar luoedd heddlu Cymru er mwyn iddyn nhw ddiogelu eu hunain a'r cyhoedd."

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel

Cafodd yr arian ei gynnig i Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd wneud cais amdano ym mis Ionawr gyda £10m wedi ei glustnodi mewn cronfa arbennig.

Roedd y ceisiadau am arian yn seiliedig ar y bygythiadau roedd swyddogion yn eu hwynebu'n lleol ac roedd angen i Gomisiynwyr Heddlu amlinellu sawl swyddog ychwanegol fyddai'n cael eu hyfforddi i ddefnyddio Taser.

Bydd £150,000 o'r gronfa yn cael ei ddefnyddio i hyfforddi hyfforddwyr Taser.

Bydd tua £3.1m o'r gronfa'n cael ei wario ar daclo trais difrifol a bygythiadau gangiau cyffuriau.

Dywedodd John Apter, Cadeirydd Cenedlaethol Ffederasiwn yr Heddlu dros Gymru a Lloegr: "Mae Taser yn declyn hanfodol sydd wedi achub llawer o swyddogion rhag dioddef anafiadau difrifol neu waeth.

"Rwyf wedi ymgyrchu i glustnodi arian penodol er mwyn i fwy o gydweithwyr gael Taser ac mae'n dda gweld fod y Gweinidog Cartref wedi gwrando a gweithredu.

"Mae plismona'n beryglus ac mae'n anodd rhagweld be all ddigwydd, ac mae angen pob cefnogaeth ar fy nghydweithwyr ac rwy'n gobeithio y bydd yr arian ychwanegol yma'n gwneud gwahaniaeth."