Posib y gallai coronafeirws 'fod ar ei uchaf' erbyn Mai
- Cyhoeddwyd
Mae prif swyddog meddygol Cymru wedi awgrymu y gallai nifer yr achosion o coronafeirws gyrraedd eu huchaf erbyn mis Mai neu Fehefin.
Dywedodd Dr Frank Atherton mai'r "dyfaliad gorau" oedd hyn, gyda nifer yr achosion yn dechrau cynyddu'n sylweddol erbyn Ebrill, ond nad oedd modd dweud yn bendant.
Mae 450 o bobl yng Nghymru bellach wedi cael prawf ar gyfer coronafeirws, ac un person o ardal Abertawe wedi'u heintio.
Bellach mae 39 achos o Covid-19 wedi'u cadarnhau ym Mhrydain, ac mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cynlluniau i daclo'r haint.
'Achosion ysgafn'
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford eisoes wedi dweud bod "ymdrechion mawr yn cael eu gwneud i reoli'r feirws" ond y dylai pobl barhau â'u bywyd pob dydd "fel yr arfer".
Wrth siarad ddydd Mawrth dywedodd Dr Atherton y dylai pobl gymryd gofal o'u hylendid personol ac y dylai busnesau a chyflogwyr baratoi.
Ychwanegodd nad oedd cynlluniau i gau ysgolion ar hyn o bryd, ac y byddai hynny ond yn digwydd os oedd tystiolaeth wyddonol gadarn dros wneud hynny.
Fodd bynnag, petai coronafeirws yn ymledu fe allai'r gwasanaeth iechyd orfod canslo rhai triniaethau.
Mae'r cyhoedd hefyd wedi cael cyngor i beidio ymweld â pherthnasau hŷn mewn cartrefi gofal os oes ganddyn nhw annwyd, er mwyn gwarchod y bobl fwyaf bregus.
Ychwanegodd Dr Atherton fod y mwyafrif o achosion yn debygol o fod yn rhai ysgafn, ond y gallai'r niferoedd roi straen ar y gwasanaeth iechyd.
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething fod y llywodraeth ar hyn o bryd yn canolbwyntio ar atal coronafeirws rhag ymledu, a bod llinell gymorth 111 ar gael trwy'r wlad i roi cyngor am yr haint.
Byddai unrhyw arian ychwanegol gan y Trysorlys yn Llundain yn dibynnu ar faint y twf mewn achosion.
Ond dywedodd Mr Gething fod y gwasanaeth iechyd yn paratoi ar gyfer absenoldebau staffio posib, gwneud mwy o le mewn ysbytai, a thrin pobl yn eu cartrefi.
Cynllun taclo'r haint
Mae Llywodraeth y DU bellach wedi cyhoeddi eu cynllun i daclo coronafeirws, gan ddweud:
bod y DU yn "debygol" o gael ei heffeithio'n sylweddol;
y bydd y mwyafrif o gleifion yn cael haint ysgafn, ond y gallai rhai orfod cael triniaeth ysbyty, gyda marwolaethau'n bosib mewn achosion prin;
y gallai hyd at un o bob pump gweithiwr fod yn absennol pan mae'r haint ar ei uchaf;
y gallan nhw symud tuag at strategaeth o "oedi" ymlediad yr haint i fisoedd cynhesach y gwanwyn a'r haf;
eu bod yn paratoi ar gyfer nifer o sefyllfaoedd posib, o bandemig effaith isel (fel ffliw moch 2009) i un difrifol ac estynedig (fel ffliw Sbaen 1918);
y gallai ysgolion gau, pobl orfod gweithio o adref, a digwyddiadau mawr gael eu gohirio os yw'r sefyllfa yn gwaethygu;
y gallai staff iechyd sydd wedi ymddeol gael eu galw yn ôl i helpu â'r llwyth gwaith;
y bydd yr heddlu'n canolbwyntio ar droseddau difrifol yn unig os oes prinder swyddogion oherwydd salwch.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2020