Coronafeirws: Achos cyntaf Cymru wedi'i ganfod yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
coronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae prif swyddog meddygol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi cadarnhau'r achos cyntaf o coronafeirws yn y wlad.

Dywedodd Dr Frank Atherton fod y claf wedi teithio yn ôl i Gymru o ogledd Yr Eidal - yr ardal o Ewrop ble mae'r haint wedi lledaenu fwyaf.

Y gred ydy bod y claf yn dod o ardal Abertawe.

"Mae pob cam priodol yn cael ei gymryd i roi gofal i'r unigolyn ac i leihau'r risg o drosglwyddo'r haint i bobl eraill," meddai Dr Atherton.

"Hoffwn fanteisio ar y cyfle i sicrhau'r cyhoedd bod Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi paratoi'n dda ar gyfer digwyddiad o'r math hwn.

"Gan gydweithio â'n partneriaid yng Nghymru a'r DU, mae'r ymateb yr oeddem wedi paratoi ar ei gyfer wedi cael ei roi ar waith ac mae gennym fesurau cadarn i reoli heintiau er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd."

Fe wnaeth arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart gadarnhau bod cysylltiad rhwng yr achos coronafeirws ac Ysgol yr Esgob Gore yn y ddinas.

Ond pwysleisiodd Mr Stewart nad oedd achosion mewn unrhyw ysgol yn Abertawe, ac y byddan nhw i gyd yn parhau ar agor.

Fe wnaeth hefyd ganmol y modd y gwnaeth yr ysgol, a'r brifathrawes Helen Burgum yn enwedig, ddelio gyda'r sefyllfa

Ychwanegodd fod mwy o gyngor ar gael i'r ysgol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a swyddogion iechyd lleol rhag ofn fod gan bobl mwy o gwsetiynau neu bryderon.

Mwy o achosion

Ychwanegodd Dr Atherton fod yr awdurdodau iechyd yn ceisio "arafu lledaeniad y feirws" nes y gwanwyn a'r haf, pan fyddai'r effeithiau yn llai.

"Mae'r cyhoedd yn poeni, yn naturiol, ond dydy hwn ddim yn argyfwng - mae'n bwysig cadw'n peidio cyffroi."

Mewn datganiad dywedodd Dr Giri Shankar o Iechyd Cyhoeddus Cymru y byddan nhw'n cydweithio â Llywodraeth Cymru a'r gwasanaeth iechyd yn ehangach i "i leihau unrhyw risg i iechyd y cyhoedd".

Ychwanegodd y byddan nhw'n "gweithio'n galed i ganfod pobl a allai fod wedi dod i gysylltiad agos â'r achos".

Dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething eu bod wedi cynllunio ar gyfer achos o coronafeirws "dros nifer o wythnosau".

"Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ganfod yn gynnar achosion sydd wedi cyrraedd yma o dramor a'u hynysu i osgoi unrhyw ledaeniad pellach," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Frank Atherton fod Cymru "wedi paratoi'n dda" i ddelio gyda'r haint

Bellach mae 19 achos o coronafeirws wedi dod i'r amlwg yn y DU, gyda chadarnhad ddydd Iau o'r achos cyntaf yng Ngogledd Iwerddon.

Mae nifer o Brydeinwyr yn parhau i fethu â hedfan adref o Tenerife wedi iddyn nhw gael eu cadw yn eu gwesty oherwydd achosion o'r feirws.

Yn ôl awdurdodau yn Yr Eidal maen nhw eisoes wedi gweld 650 achos o Covid-19, gyda 15 o bobl wedi marw.

Wrth i'r haint ddechrau lledaenu ym mis Ionawr fe rybuddiodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ei bod hi'n "debygol" y byddai coronafeirws yn cyrraedd Cymru ar ryw ben.

Mae un Cymro sy'n byw yn China yn eisoes wedi dweud ei fod wedi dal yr haint ym mis Rhagfyr, a bod meddygon wedi cadarnhau iddo mai coronafirws ydoedd.

Yr wythnos hon cafodd gêm rygbi'r Gweilch yn erbyn Zebre o ogledd yr Eidal ei ohirio oherwydd pryderon am yr haint, ac mae'r gêm rhwng Iwerddon a'r Eidal yn y Chwe Gwlad hefyd wedi'i gohirio.

Mae ysgolion yn ardal Bangor yng Ngwynedd hefyd wedi gofyn i rieni fod yn wyliadwrus am unrhyw symptomau o'r feirws wedi i ddisgyblion ddychwelyd o dripiau sgïo diweddar i'r Eidal.

Cyngor i'r cyhoedd

Daeth yr achosion cyntaf o coronafeirws i'r amlwg yn ninas Wuhan yn China ym mis Rhagfyr, ac ers hynny mae wedi ymledu i sawl gwlad yn Asia a thu hwnt.

Mae symptomau'r feirws yn cynnwys tymheredd uchel, cur pen, peswch, tisian a thrafferthion anadlu.

Mae'r Swyddfa Dramor wedi dweud y dylai pobl osgoi teithio i 11 o drefi sydd dan gwarantin yn yr Eidal, yn ogystal â dwy ddinas yn Ne Corea ac unrhyw le ar dir mawr China.

Mae awdurdodau iechyd hefyd wedi cynghori pob sy'n dangos unrhyw symptomau ar ôl dychwelyd i'r DU o ogledd yr Eidal, Fietnam, Cambodia, Laos, Myanmar, China, Gwlad Thai, Japan, De Corea, Hong Kong, Taiwan, Singapore, Malaysia neu Macau i aros adref a ffonio llinell gymorth.

Y cyngor i bobl er mwyn lleihau'r risg o ledaenu'r feirws yw gorchuddio'ch ceg a'ch trwyn wrth beswch neu disian, cario hancesi papur a'u rhoi yn y bin ar ôl eu defnyddio, a golchi dwylo'n rheolaidd.