50% yn fwy o fenywod wedi cofrestru â chlybiau pêl-droed
- Cyhoeddwyd
Mae Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dweud bod nifer y menywod sy'n cymryd rhan mewn pêl-droed wedi cynyddu 50% ers 2016.
Yn ôl yr ymddiriedolaeth mae 8,600 o ferched wedi cofrestru gyda chlybiau pêl-droed yng Nghymru ar hyn o bryd - mwy nag erioed o'r blaen.
Nod y corff yw cael 20,000 o chwaraewyr benywaidd wedi cofrestru erbyn 2024.
Bydd tîm merched Cymru yn herio Estonia mewn gêm gyfeillgar ar y Cae Ras yn Wrecsam nos Wener.
Daw'r ffigyrau wrth i'r ymddiriedolaeth ehangu rhaglen Huddle, sy'n "pontio'r bwlch a chefnogi'r cam rhwng pêl-droed yn yr ysgol ac mewn clwb".
Fe wnaeth tua 450 o ferched gymryd rhan mewn sesiynau yn 2019, ac mae'r ymddiriedolaeth yn gobeithio dyblu'r ffigwr wrth i'r cynllun gael ei ehangu i 20 safle newydd fis nesaf.
Dywedodd prif weithredwr dros dro Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Caroline Spanton bod y cynnydd yn "dyst i waith gwych yr hyfforddwyr, y clybiau, y gwirfoddolwyr, y cynghreiriau a'n holl bartneriaid eraill ni".
"I gyrraedd ein targed, rydyn ni'n gwybod bod rhaid i ni wneud pethau'n wahanol a dyma pam rydyn ni'n gweithio mewn ffyrdd newydd," meddai.
Ychwanegodd amddiffynnwr Cymru a Lerpwl, Rhiannon Roberts bod y "twf yn nifer y merched a'r genethod sy'n chwarae pêl-droed yn newyddion gwych i'r wlad".
"Bydd nid yn unig yn helpu i ysbrydoli chwaraewyr y dyfodol ar lefel elitaidd, ond hefyd mae'n helpu i wella iechyd a lles pobl yng Nghymru," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2019