Cynllun mudo newydd 'ddim yn gweithio i Gymru'

  • Cyhoeddwyd
UK visaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y newidiadau mudo yn dod i rym wedi i'r cyfnod pontio gyda'r UE ddod i ben

Dyw'r cynlluniau mudo wedi Brexit "ddim yn gweithio i Gymru", yn ôl gweinidogion Llywodraeth Cymru a chynrychiolwyr undebau llafur a diwydiant.

Maen nhw wedi dod at ei gilydd i alw am newid yng nghynlluniau Llywodraeth y DU.

O dan y cynlluniau, fyddai gweithwyr sydd â sgiliau is ddim yn cael visas wrth i Lywodraeth y DU annog cyflogwyr i beidio â dibynnu ar "lafur rhad" o Ewrop.

Ond mae San Steffan yn mynnu y byddai'r drefn yn gweithio i'r DU gan gynnwys Cymru.

Ar hyn o bryd mae hawl gan weithwyr o wledydd Ardal Economaidd Ewropeaidd i fyw a gweithio yn y DU beth bynnag eu cyflog a'u sgiliau.

Ond mae Llywodraeth y DU yn dweud y bydd hyn yn dod i ben ar 31 Rhagfyr - sef y dyddiad y mae'r cyfnod 11 mis wedi Brexit yn gorffen.

Gostwng trothwy cyflog

Ym mis Chwefror fe gyflwynodd y llywodraeth gynllun mudo yn seiliedig ar bwyntiau - ac mae'n ofynnol felly i ddinasyddion tramor gael 70 pwynt er mwyn gweithio yn y DU.

Mae'n fwriad gan y Ceidwadwyr ostwng trothwy cyflog gweithwyr â sgiliau sydd am ddod i'r DU - ar hyn o bryd mae'r trothwy yn £30,000 ond y bwriad yw ei ostwng i £25,600.

Bydd y trothwy yn gostwng i £20,480 mewn achosion lle mae prinder gweithwyr - er enghraifft nyrsio, peirianwaith sifil, seicoleg a dawnsio bale clasurol - neu yn achos pobl sydd â doethuriaeth perthnasol i swydd benodol.

Yn ôl adroddiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, dolen allanol byddai'r trothwy o £30,000 wedi taro Cymru yn waeth na gweddill y DU ac felly mae gostwng y swm yn fwy llesol.

Ffynhonnell y llun, Y Blaid Lafur
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cwnsler Cyffredinol, Jeremy Miles, nad yw'r newidiadau yn gweithio i Gymru

Mewn llythyr at yr Ysgrifennydd Cartref, Priti Patel, dywed y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd Jeremy Miles bod angen gwaredu neu ostwng y trothwy ariannol.

Mae Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth GIG Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru, Fforwm Gofal Cymru, Y Ffederasiwn Busnesau Bach ac eraill yn dweud bod angen:

  • dileu neu ostwng y trothwy cyflog o £25,600;

  • i gost unrhyw system fudo newydd fod yn isel ac ni ddylai ychwanegu at y baich gweinyddu;

  • llwybr ar gyfer mudo heb ei noddi, sy'n gyson â system yn seiliedig ar bwyntiau;

  • i'r polisi newydd gydnabod yr her ddemograffig sy'n wynebu Cymru

  • digon o amser i gyflwyno system newydd;

  • i Lywodraeth y DU sicrhau bod mudwyr yn ymwybodol o'u hawliau a bod yr hawliau hynny'n cael eu cynnal.

'Angen gwella sgiliau'r gweithlu'

Ychwanegodd Jeremy Miles, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: "Gyda'n gilydd, rydyn ni'n anfon neges glir iawn - mae angen system fudo sy'n gweithio i Gymru, sy'n gweithio i'n busnesau, ein hysgolion a'n Prifysgolion, ein cartrefi gofal a'n hysbytai, fel bod y sgiliau a'r bobl sydd eu hangen arnom yn parhau i fod gennym.

"Dydy'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei gynnig ddim yn gweithio i Gymru.

"Mae'r ffaith bod amrywiaeth mor eang o sefydliadau o'r sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol yng Nghymru wedi cytuno â'r papur hwn yn dweud llawer am gryfder y teimladau yr ydym yn eu mynegi yma.

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y neges bwerus hon gan Gymru am ein hanghenion mudo yn y dyfodol yn cael ei chlywed o'r diwedd gan Lywodraeth y DU."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: "Bydd y system fudo newydd yn gweithio i Gymru a gweddill y DU.

"Ry'n yn annog cyflogwyr i wella sgiliau y gweithlu presennol tra'n ysgogi twf economaidd ar draws y DU."