Rhybudd oren am law i Gymru ddechrau'r wythnos

  • Cyhoeddwyd
GlawFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae disgwyl y bydd Cymru'n gweld mwy o law ddechrau'r wythnos, wedi i'r Swyddfa Dywydd gyhoeddi rhybudd am law dros rannau helaeth o'r wlad ddydd Llun a dydd Mawrth.

Mae'r rhybudd oren am law yn benodol ar gyfer Ceredigion a Phowys, ond fe all nifer o siroedd yn y gogledd a'r de weld tywydd garw hefyd.

Gallai'r ucheldiroedd weld rhwng 60 a 90mm (2.4 i 3.5 modfedd) o law.

Mae'r rhybudd oren yn dechrau am 18:00 ddydd Llun ac fe fydd mewn grym hyd at 10:00 ddydd Mawrth.

Mae'n bosib y bydd y tywydd garw'n croesi Cymru i gyfeiriad y dwyrain ddydd Llun a pharhau tan brynhawn Mawrth.

Mae rhybudd melyn mewn grym am law ar gyfer rhannau o Ben-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Merthyr Tudful, Nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg.