Achub pobl o'u ceir wrth i'r tywydd garw achosi llifogydd

  • Cyhoeddwyd
llanbedr-y-froFfynhonnell y llun, Eirlys Jones
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd y fan yma i ddianc o'r dŵr yn Llanbedr-y-fro ym Mro Morgannwg

Mae dau berson wedi cael eu hachub o'u ceir wrth i law trwm achosi llifogydd mewn sawl rhan o Gymru.

Mae 13 o rybuddion llifogydd bellach mewn grym, dolen allanol, gyda disgwyl i gyfnodau o law trwm barhau tan brynhawn Mawrth.

Ym Mro Morgannwg fe wnaeth Afon Elai orlifo ei glannau yn Llanbedr-y-fro, a bu'n rhai achub gyrrwr o'i gar.

Bu'n rhaid i swyddogion tân hefyd achub person o'i gar ar yr A485 yng Nhyfronydd, Powys.

Ffynhonnell y llun, Network Rail
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r llinell drenau yn ardal Sain Ffagan dan ddŵr yn dilyn y glaw trwm

Mae'r gwasanaethau brys wedi rhybuddio gyrwyr i beidio ceiso gyrru ar ffyrdd sydd dan ddŵr.

Yn Llanbedr-y-fro cafodd tafarn y Sportsman's Rest ei tharo gan lifogydd am y trydydd tro mewn tair wythnos.

Oherwydd gwyntoedd cryfion roedd cyfyngiadau ar bontydd yr M48 pont Hafren a'r A55 pont Britannia rhwng Gwynedd a Môn.

Ym Mhowys bu'n rhaid cau'r A483 yn Aberhonddu.

Ffynhonnell y llun, EPA
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Afon Elai wedi gorlifo ar ffordd ym mhentref Llanbedr-y-fro ym Mro Morgannwg

Disgrifiad o’r llun,

Bu'n rhaid i'r gwasanaeth tân dynnu lori allan o'r dŵr ger Y Trallwng

Mae ffyrdd yr A458 yng Nghyfronnydd, Powys a'r A473 yn Nhanysguboriau, Rhondda Cynon Taf hefyd wedi eu heffeithio.

Cafodd nifer o wasanaethau trên eu canslo o ganlynid i lifogydd.

Dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod y llinell drenau rhwng Pencoed a Chaerdydd Canolog wedi'i rwystro oherwydd llifogydd trwm.

Ffynhonnell y llun, Swyddfa Dywydd
Disgrifiad o’r llun,

Map rhybuddion llifogydd y Swyddfa Dywydd fore Mawrth

Mae rhybuddion llifogydd mewn grym ar gyfer ardaloedd Dolwen, Llandinam, Aber-miwl, Fron, Trehelig, Trewern a Chei'r Trallwng ar yr Afon Hafren.

Mae rhybuddion hefyd ar gyfer Afon Elai yng Nghaerdydd, Afon Gwy yn y Clas-ar-Wy ym Mhowys, ynghyd ag ardaloedd arfordirol Cydweli a Pentywyn yn Sir Gaerfyrddin.