Dadorchuddio plac i nodi cyfraniad Iolo Morganwg
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-archdderwydd wedi galw am godi cerflun o Iolo Morganwg o flaen y Senedd yng Nghaerdydd.
Yn ôl T James Jones - neu Jim Parc Nest i roi iddo'i enw barddol - mae angen gwneud mwy i gofio ei "fawredd" yn hanes Cymru a'r Gymraeg.
Roedd Iolo Morganwg yn gyfrifol am greu Gorsedd y Beirdd, ond mae hefyd yn cael ei ystyried fel un oedd wedi rhagweld fod angen creu sefydliadau fel y Llyfrgell Genedlaethol i warchod diwylliant y genedl.
Ddydd Mercher cafodd plac glas ei ddadorchuddio ar wal tŷ ym Mro Morgannwg lle ganwyd Iolo Morganwg yn 1747.
Fe ddarllenodd y cyn-Archdderwydd, Jim Parc Nest rhan o'r awdl a enillodd y gadair iddo ym mhrifwyl 2019 yn ystod y seremoni ym mhentref Pennon.
Dywedodd Mr Jones: "Mae un o'r cymeriadau mwyaf lliwgar 'yn ni wedi nabod yn hanes Cymru wedi rhoi lliw i'r Steddfod mewn ffordd.
"Seremonïau'r orsedd sydd yn rhoi'r lliw, sydd yn rhoi'r llun i ni bob blwyddyn. A dyna mae Iolo wedi llwyddo i wneud.
"Allwn ni ddychmygu'r Eisteddfod heb yr orsedd? Mae'n anodd iawn.
"A dyna ei bwysigrwydd e, dyna ei wyrth e, dyna ei ryfeddod e yw bod e wedi llwyddo i roi rhywbeth dwi'n meddwl sydd yn hanfodol i'r Eisteddfod ac yn unigryw i'r Eisteddfod hefyd."
Roedd Iolo Morganwg yn hynafiaethydd ac yn gasglwr llenyddiaeth ganoloesol, ond mae hefyd yn adnabyddus am ffugio a thwyllo ar ei daith i ledaenu diwylliant Cymreig.
Bu rhai'n rhoi clod iddo am ragweld angen Cymru am sefydliadau diwylliannol a gwleidyddol, er mwyn goroesi'r chwyldro diwydiannol a'r bygythiad gan yr iaith Saesneg.
'Dim bodloni â phlac'
Mae Jim Parc Nest eisiau codi cofeb barhaol ym Mae Caerdydd i gydnabod pwysigrwydd Iolo Morganwg.
"Gorau gyd po fwyaf o blaciau sydd o gwmpas y lle. Ond dwi'n teimlo na ddylwn ni ddim bodloni â phlac," meddai.
"Liciwn i weld cerflun ohono fe, a hwnna o flaen y sefydliad fydd cyn bo hir yn cael ei alw yn Senedd Cymru.
"'Wi'n credu bod Iolo, o flaen pawb arall, yn haeddu cael ei rhoi fan'na o flaen ein Senedd ni. Dyna fesur, i fi, ei fawredd e."
Roedd Iolo Morganwg hefyd yn gyfrifol am gyfansoddi cerddi a llawysgrifau, ond mae academyddion y gorffennol wedi ei alw'n dwyllwr.
Ond yn y ddegawd ddiwethaf mae ei enw da wedi ei warchod gan astudiaethau newydd o'i waith.
Mae'n derbyn clod am ragweld y byddai angen sefydliadau cenedlaethol fel Llyfrgell Genedlaethol ac Amgueddfa Genedlaethol ar Gymru i sicrhau goroesiad Cymru a'r Gymraeg.
Yn 2019 enillodd Jim Parc Nest y gadair am gerdd a gyfansoddwyd er anrhydedd i Iolo Morganwg.
"Teitl fy awdl i yn Llanrwst oedd Gorwelion, ac mae 'na elfen ffug mewn gorwel. Mae dyn yn cyrraedd gorwel a dyw'r gorwel ddim yna," meddai.
"Mae'r gorwel yn diflannu unwaith mae dyn yn cyrraedd, a beth mae dyn yn gweld yw gorwel arall o hyd.
"A dwi'n meddwl am Iolo fel y dyn gerddodd trwy orwelion, o un gorwel i'r llall, a meddwl am ei freuddwydion e mewn gwahanol feysydd. Roedd e wedi ein harwain ni i wireddu ein breuddwydion ni mewn blynyddoedd i ddilyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Awst 2019