Prys Edwards wedi marw yn 78 oed

  • Cyhoeddwyd
Prys Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Roedd "yr Urdd a Chymru yn bopeth" i Prys Edwards, yn ôl gwefan y mudiad

Mae Prys Edwards, pensaer a llywydd anrhydeddus yr Urdd, wedi marw yn 78 oed.

Roedd wedi byw gyda chyflwr Parkinson's am flynyddoedd.

Roedd yn fab i sylfaenydd yr Urdd, Syr Ifan ab Owen Edwards, ac yn frawd i'r diweddar Owen Edwards, prif weithredwr cyntaf S4C.

Bu'n gadeirydd ar S4C rhwng 1992 ac 1998, ac yn llywydd Bwrdd Croeso Cymru rhwng 1984 ac 1992.

Bu Mr Edwards, o Aberystwyth, hefyd yn aelod o fyrddau CADW, Awdurdod Twristiaeth Prydeinig a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Gan barhau â thraddodiad y teulu, bu'n chwarae rhan amlwg ym mudiad yr Urdd drwy gydol ei oes.

Daliodd swyddi gwirfoddol o fewn yr Urdd, gan gynnwys ysgrifennydd mygedol, trysorydd, cadeirydd a llywydd cyn dod yn un o'r llywyddion anrhydeddus.

Bu'n aelod am flynyddoedd, yn swyddog yn y gwersylloedd, yn gyn-arweinydd Aelwyd Aberystwyth ac yn arweinydd yr Urdd yn yr ymgyrch i gael Deddf yr Iaith Gymraeg.

'Urdd wedi achub y Gymraeg'

Mewn cyfweliad gyda Hywel Gwynfryn ar gyfer rhaglen 'Hywel Ddoe a Heddiw' yn 2014, fe soniodd Mr Edwards am yr her o fyw gyda'r cyflwr Parkinson's.

Bu ei frawd, Owen Edwards yn byw â'r cyflwr am flynyddoedd tan ei farwolaeth yn 2010., dolen allanol

"Fe wnaeth therapydd holistig fy nysgu i droi popeth negyddol yn bositif," meddai bryd hynny.

"Fe allen i fod wedi dewis peidio trio ond dwi'n mwynhau bywyd yn llawn, dwi yng nghanol pobl ifanc ac mae gen i deulu sy'n fy nghefnogi i."

Ychwanegodd mai "Llangrannog yw'r lle pwysicaf yng Nghymru i'r iaith Gymraeg, yn fy marn i, achos dyma'r lle y newidiodd agwedd pobl at yr iaith".

"Fe gafodd ei newid o fod yn iaith y capel ac iaith yr eisteddfod i fod yn iaith hwyl, dawnsio a phopeth fel 'na," meddai. "Mae wedi newid y Gymraeg, yn fy nhyb i.

"Dyma'r mudiad sydd wedi achub yr iaith Gymraeg, heb os nac oni bai."

Ffynhonnell y llun, Urdd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr Urdd fod Prys Edwards wedi bod yn rhan o bwyllgorau a threfniadaeth y mudiad am dros 60 o flynyddoedd

Mewn teyrnged, dywedodd cadeirydd yr Urdd, Dyfrig Davies fod Prys Edwards yn "un o fawrion Cymru o ran ymroddiad, gweledigaeth a'r hyn a lwyddodd i gyflawni".

Ychwanegodd: "Anelu yn uwch a gwell a mwy dros ieuenctid Cymru, yr iaith Gymraeg a'r diwylliant, dyna oedd ei nod.

"Dwi'n ystyried hi'n fraint bod wedi cael ei adnabod a chydweithio ag ef. Mae ei lais a'i frwdfrydedd yn fyw o hyd ac yn ein gyrru i sicrhau'r gorau i Urdd Gobaith Cymru."

Dywedodd Siân Lewis, prif weithredwr y mudiad ieuenctid: "Doedd dim yn amhosib i'r Urdd ei gyflawni ym marn Prys.

"Ei gas beth oedd tangyflawni neu beidio â gweld cyfleoedd. Roedd ei gyfeillgarwch, ei gyngor a'i weledigaeth yn hynod werthfawr. Mae colled enfawr i'w theimlo ar ei ôl."

'Arweinydd wrth reddf'

Dywedodd Owen Evans, prif weithredwr S4C bod "Prys yn arweinydd wrth reddf, yn barod i fentro ac arloesi a gwthio'r ffiniau".

"Gwnaeth gyfraniad mawr mewn cyfnod cyffrous i S4C wrth i ddatblygiadau teledu digidol ddod i rym yng nghanol y 90au," meddai.

"Roedd arweiniad Prys yn allweddol gan sicrhau fod S4C ar flaen y gad ac yn rhan o'r chwyldro digidol.

"Rydym yn cydymdeimlo'n ddwys gyda'i wraig Cath, ei blant Lisa a Sion a'i deulu a'i ffrindiau."

'Herio sefydliadau a phobl'

Yn ôl cyn-brif weithredwr S4C, Huw Jones, roedd Prys Edwards yn "arian byw o arweinydd ar rai o sefydliadau pwysicaf Cymru a'r Gymraeg".

Mewn teyrnged, dywedodd: "Roedd ganddo egni a brwdfrydedd heintus a'r ddawn o fynnu fod pawb o'i gwmpas yn edrych i'r dyfodol ac yn adnabod pob cyfle posib i symud pethau ymlaen.

"Roedd yn barod i herio sefydliadau a phobl, yn enwedig y rheiny nad oedd y dangos parch tuag at Gymru a'r Gymraeg.

"Roedd yn ymwybodol iawn o fod yn dilyn yn ôl traed ei dad a'i daid ac yn benderfynol o wneud ei gyfraniad ei hun i sicrhau dyfodol yr iaith Gymraeg.

"Tristwch o'r mwyaf oedd iddo gael ei daro â'r un salwch a'i frawd, Owen, ond fe wynebodd y salwch gyda'r un agwedd gadarnhaol a gobeithiol ag a ddangosodd yn ei waith ac ar hyd ei fywyd. Fe welwn ei golli'n fawr."

Hefyd gan y BBC