Cwpl o Gymru i gael dychwelyd adref o Beriw
- Cyhoeddwyd
Mae cwpwl o Sir Gâr sydd wedi bod yn sownd ym Mheriw oherwydd mesurau coronafeirws y llywodraeth yno wedi clywed y byddan nhw'n cael dychwelyd adref.
Roedd Ffred a Meinir Ffransis o Lanfihangel-ar-Arth ar eu gwyliau yn y wlad pan benderfynodd y llywodraeth i gau ei ffiniau a rhwystro hediadau o'r wlad.
Dywedodd Mrs Ffransis eu bod yn ddiolchgar iawn i'r negeseuon o gefnogaeth maen nhw wedi eu derbyn.
"Ro'n ni'n hyderus iawn pan ddihunon ni a chlywed bod Periw wedi cau'r ffiniau a dim hediadau fod i fynd mas, ond deall wedyn mai rhywbeth mewnol i bobl Periw eu hunain oedd hynny," meddai.
"Diolch i'r holl bwysau sydd wedi bod ar y Swyddfa Dramor, mae'n plant ni wedi bod yn pwyso, ac wedi cychwyn grŵp WhatsApp i ddechrau'r pwysau o'r awr gyntaf, felly ni'n browd iawn ac yn ddiolchgar iawn iddyn nhw, a ni'n siŵr mai'r pwysau hyn ar y llywodraeth sydd wedi dwyn ffrwyth os gawn ni fynd o 'ma."
Ddydd Sul dywedodd llefarydd ar ran y Swyddfa Dramor "eu bod wedi sicrhau caniatâd i tua 400 o ddinasyddion y DU i ddychwelyd".
Mae'r mesurau llym wedi bod mewn grym ym Mheriw ers dydd Llun, er mwyn ceisio atal coronafeirws rhag lledu.
Roedd Ffred a Meinir Ffransis, sy'n ymgyrchwyr iaith blaenllaw, wedi teithio i Beriw fel rhan o daith o amgylch de America oedd wedi cynnwys Patagonia a Bolivia.
Cafodd y ddau orchymyn i aros yn eu gwesty yn nhref Cuzco am bythefnos o leiaf, er eu bod yn cael gadael eu hystafell i nôl bwyd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2020