Cwpl o Wynedd yn gaeth ar long yn Ne America
- Cyhoeddwyd
Mae gŵr a gwraig o Wynedd sydd ar wyliau llong bleser yn Ne America, wedi bod yn gaeth i'w hystafell ar fwrdd y llong ers tair wythnos.
Fe ddechreuodd Mair ac Arfon Jones o Lanllyfni, Dyffryn Nantlle ar y fordaith ar fwrdd llong yr MS Zaandam ym mis Chwefror.
Ond oherwydd mesurau caeth ar draws y cyfandir, nid yw'r porthladdoedd y mae'r llong wedi ymweld â nhw wedi caniatáu i'r teithwyr lanio na gadael y cwch.
Fe ddechreuodd pethau fynd o chwith i'r teithwyr wedi iddyn nhw adael Ynysoedd y Falklands, gan iddyn nhw fethu â docio yn Punto Arenas yn Chile, gan fod yr awdurdodau yn y wlad wedi gwrthod caniatáu i'r llong bleser ddocio.
Roedd yr awdurdodau yn Chile am i'r holl deithwyr aros ar y llong am 14 diwrnod cyn gadael, er mwyn darganfod a fyddai achosion o'r feirws COVID-19 yn dod i'r golwg.
Roedd pryderon ar y dechrau y byddai'r llong yn rhedeg allan o fwyd a chyflenwadau angenrheidiol, ond erbyn hyn mae llongau llai wedi bod yn cludo nwyddau allan i'r llong wrth iddi angori allan yn y môr ger porthladd Valparaiso.
Wrth i bryderon am iechyd pobl ar fwrdd y llong gynyddu, mae'r cwpl bellach yn gaeth i'w stafell wely, wrth i griw'r llong geisio canfod porthladd sy'n fodlon iddyn nhw lanio.
Mae llong yr MS Zaandam yn perthyn i gwmni llongau Holland America Line.
Wrth siarad â BBC Cymru Fyw, dywedodd Arfon Jones: "Erbyn hyn 'da ni wedi cyrraedd Valparaiso yn Chile er mwyn cael llenwad o danwydd a stoc o fwyd.
"Ond yn anffodus 'does ganddo ni'm llawer o syniad ble byddwn yn cael docio i gael hedfan adref i Gymru!
"Mae'r sefyllfa bryderus iawn i bawb ar hyn o bryd, ond yn ddiolchgar iawn bod pawb yn iach ar y llong ac yn cael y gofal gorau.
"Yr oll fedrwn ni wneud ydi gobeithio fod pawb yn saff adre, ac rydym yn anfon ein cofion at bawb."
Y gobaith nawr yn ôl Arfon Jones, yw y bydd caniatâd yn cael ei roi i hwylio ar hyd Camlas Panama, gyda'r gobaith o gyrraedd Fort Lauderdale yn UDA, er mwyn gallu hedfan adref, ond nid yw hyn wedi ei gadarnhau eto.
Mae'r Swyddfa Dramor wedi dweud eu bod yn cadw golwg ar y sefyllfa, wrth i bobl o Brydain geisio teithio'n ôl o bedwar ban byd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2020