I bwy hoffech CHI ddiolch?

  • Cyhoeddwyd
Mae cigydd lleol Cernarfon, Owen Glyn Owen (Wil Bwtchar), dal yn agored tan 1pm pob diwrnod ac hefyd yn darparu pecynnau bwyd.Ffynhonnell y llun, Iolo Penri
Disgrifiad o’r llun,

Mae Owen Glyn Owen, cigydd yng Nghaernarfon, wedi addasu er mwyn cynnal gwasanaeth i bobl leol

Yn gofalu am gleifion, yn gyrru nwyddau, yn casglu sbwriel, yn danfon negeseuon neu'n gweithio mewn siop - mae yna griwiau o bobl ledled Cymru sy'n delio'n ddiflino gyda'r pandemig ar hyn o bryd.

Mae rhai yn ein helpu ni yn rhinwedd eu swydd; rhai wedi mynd yr ail filltir ac eraill wedi bod wrth law i wneud cymwynas fach sy'n golygu llawer.

A dyna pam ry'n ni'n gofyn am eich help chi i greu tudalen arbennig fydd yn dathlu'r cymeriadau lleol a'r ysbryd cymunedol sy'n ffynnu ar draws Cymru yn wyneb hunllef coronafeirws.

Dyma gyfle i chi dalu teyrnged i'r rhai hynny sydd wedi bod o gymorth i ni - ym mha bynnag ffordd - yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw anfon neges at cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol yn nodi i bwy hoffech chi ddiolch a pham. Cofiwch atodi llun o'r person hefyd, os yn bosib.

Gall fod yn aelod o'ch teulu, yn ffrind, yn gymydog yn gyd-weithiwr neu'n ddieithryn llwyr.

Bydd Cymru Fyw yn casglu'r diolchiadau yn ystod y dyddiau nesaf er mwyn cyhoeddi oriel arbennig i ddathlu'n cymunedau dros gyfnod y Pasg.

Anfonwch eich e-byst erbyn 12pm ar 9 Ebrill. Diolch am gyfrannu.

Eisiau gwirfoddoli neu angen help?

Mae Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru yn cynnig cymorth i'r rheini sydd ei angen. Os ydych mewn angen neu yn hunan-ynysu, gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y clwb agosaf sy'n cynnig cymorth fan hyn, dolen allanol.

Mae nifer o gynghorau sir hefyd yn darparu gwybodaeth am sut allwch chi wirfoddoli neu ddod o hyd i gymorth yn ystod yr argyfwng.

Hefyd o ddiddordeb:

Disgrifiad,

Cymru'n diolch i holl staff y GIG sy'n rhan o'r frwydr yn erbyn y coronafeirws.