Y cyn-gricedwr a darlledwr Peter Walker wedi marw yn 84 oed

  • Cyhoeddwyd
Peter WalkerFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Peter Walker yn batio i Forgannwg

Mae cyn-gricedwr Morgannwg a Lloegr, Peter Walker, wedi marw yn 84 oed.

Chwaraeodd Walker dri phrawf i Loegr yn erbyn De Affrica ym 1960, gan orffen ar yr ochr fuddugol bob tro.

Treuliodd ei yrfa gyfan gyda Morgannwg, ac ar ôl ymddeol cyflwynodd newyddion chwaraeon ar deledu BBC Cymru.

Cafodd ei benodi yn MBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd 2011 a gwasanaethodd fel llywydd Clwb Criced Morgannwg.

Roedd Walker, a anwyd ym Mryste, yn chwaraewr cyffredinol ac mae'n cael ei ystyried fel y daliwr agos gorau i fynd ar y cae i Forgannwg.

Yn nhymor 1961 cwblhaodd y dwbl o sgorio 1,000 o rediadau a hawlio 100 o wicedi dosbarth cyntaf a hefyd cymerodd 73 o ddaliadau - llawer ohonyn nhw wedi'u cymryd yn ei safle maes arbenigol fel coes fer.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Peter Walker yn cael ei gofio gan lawer fel "un o fawrion Morgannwg"

Prif gryfder Walker oedd ei gysondeb, a sgoriodd 1,000 o rediadau mewn tymor 11 gwaith yn ystod gyrfa a ddechreuodd ym 1955.

Ar ddau o'r achlysuron hynny - ym 1965 a 1966 - cyflawnodd y garreg filltir heb sgorio canrif.

Roedd yn aelod allweddol o'r tîm - dan arweiniad Tony Lewis - a enillodd Bencampwriaeth y Siroedd ym 1969.

Ymddeolodd Walker ar ddiwedd tymor 1972 i ganolbwyntio ar yrfa yr oedd eisoes wedi rhagori ynddi, fel darlledwr gyda BBC Cymru.

Yn ddiweddarach mewn bywyd penodwyd Walker yn brif weithredwr Bwrdd Criced Cymru a helpodd i gyflwyno fframwaith hyfforddi ledled y wlad a chynllunio'r Ganolfan Griced Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Yn 2009 fe'i hetholwyd yn llywydd Clwb Criced Morgannwg, ond ymddiswyddodd y flwyddyn ganlynol mewn protest ar y ffordd yr oedd y clwb yn cael ei redeg gan ei gadeirydd ar y pryd, Paul Russell.

'Y maeswr gorau weles i erioed'

Mewn teyrnged, dywedodd y gohebydd criced, Edward Bevan: "Heb os roedd Peter Walker yn gricedwr o'r safon uchaf.

"Dros ei yrfa o 16 o dymhorau gyda Morgannwg, fe sgoriodd dros 1,700 o rediadau, cipiodd dros 800 o wicedi, gyda bron 700 o ddaliadau - y mwyafrif ohonyn nhw'n agos i'r batiwr.

"Fe sgoriodd dros 1,000 o rediadau 11 o weithiau ac mewn un tymor - 1961, pan chwaraeodd dros Loegr - fe ddangosodd ei ddawn wrth iddo sgorio 1,000 o rediadau, cipio dros 100 wiced ac yn dal 73, perfformiad anhygoel mewn un tymor. Fe oedd y maeswr gorau weles i erioed.

"Fe chwaraeodd dair gwaith dros Loegr, ond fel Don Shepherd ac Alan Jones, fe ddylai Walker fod wedi cael ei gydnabod gan ddewiswyr Lloegr yn llawer mwy aml.

"Naw mlynedd yn ôl, fe wobrwywyd gydag MBE, gyda Peter Walker yn llawn haeddu'r clod. Bydd yn cael ei gofio fel un o fawrion Morgannwg."