Beirniadu archfarchad am fewnforio cig o dramor

  • Cyhoeddwyd
Cig Gwlad PwylFfynhonnell y llun, @dylancastellior/Twitter

Mae ffermwyr a chyrff sy'n hyrwyddo cynnyrch o Gymru yn dweud eu bod wedi'u siomi bod archfarchnad wedi dewis mewnforio briwgig eidion o dramor yn lle defnyddio cig Cymreig.

Rhannodd ffermwr o Ynys Môn lun ar gyfryngau cymdeithasol o friwgig eidion o Wlad Pwyl ar werth mewn archfarchnad Sainsbury's.

Gan fod lleoliadau eraill fel bwytai a gwestai - sydd fel arfer yn gwerthu cig o Gymru - wedi gorfod cau dros nos fis diwethaf, mae ffermwyr ac undebau yn galw ar bob archfarchnad i stocio cig sy'n cael ei gynhyrchu'n lleol.

Dywedodd Sainsbury's eu bod wedi gorfod "cyflwyno llinellau cynnyrch ychwanegol" yn sgil y galw eithriadol.

'Pam?'

Wrth rannu'r llun ar y cyfryngau cymdeithasol fe ysgrifennodd y ffermwr Dylan Jones o Sir Fôn: "Mae ffermwyr Prydain yn gweithio saith diwrnod yr wythnos i gyrraedd y safonau uchaf wrth gynhyrchu cig - mae medru olrhain y cig yn allweddol, mae lles ein hanifeiliaid yn hollbwysig wrth gynhyrchu'r cig gorau.

"Pam fyddai Sainsbury's yn gwneud hyn?"

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae silffoedd gwag wedi bod yn olygfa gyfarwydd yn sgil yr argyfwng Covid-19

Ar ôl gweld y neges dywedodd Gareth Wyn Jones, sy'n ffermio yn Llanfairfechan: "Mae'n siomedig iawn eu bod nhw'n gwneud hyn ar adeg mor bryderus i'n diwydiant.

"Oes oedd amser i ni gyd dynnu at ein gilydd, rŵan ydy'r amser.

"Mae dod â bwyd rhatach i mewn yn siomedig iawn.

"Dwi'n teimlo bod rhaid i'r archfarchnadoedd edrych yn ofalus iawn ar sut maen nhw'n cyflenwi eu silffoedd."

Ymateb yr archfarchnad

Mewn ymateb dywedodd llefarydd ar ran Sainsbury's: "Mae gennym hanes hir o gefnogi cyflenwyr o Brydain ac rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gynnig cymaint o gynnyrch o Brydain ag y gallwn.

"Rydyn ni wedi profi galw eithriadol o uchel am rai toriadau o gig yn ystod yr wythnosau diwethaf felly rydyn ni wedi cyflwyno llinellau cynnyrch ychwanegol dros dro i'n cwsmeriaid ddewis ohonyn nhw.

"Byddwn yn mynd yn ôl i gynnig ein hystod arferol cyn gynted â phosibl, wrth gydbwyso ein hymrwymiad i ateb y galw a helpu i fwydo'r genedl."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sainsbury's eu bod wedi gorfod "cyflwyno llinellau cynnyrch ychwanegol" yn sgil y galw eithriadol

Mae undeb amaethyddol NFU Cymru yn rhannu pryderon y ffermwyr.

Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb: "Rydym yn ymwybodol y bu rhywfaint o gig eidion a dofednod Pwylaidd wedi'u stocio gan rai manwerthwyr yn y DU yn ystod yr wythnos ddiwethaf ac rydym wedi codi ein pryderon gyda'r manwerthwyr hynny.

"Mae ffermwyr Cymru yn barod ac yn frwdfrydig i ateb unrhyw alw cynyddol am fanwerthu ac maent wedi ymrwymo i ddiwallu anghenion defnyddwyr.

"Rydym yn annog manwerthwyr a phroseswyr i weithio gyda ni i adeiladu gwytnwch nawr i reoli unrhyw ymddygiad prynu aflonyddgar yn y dyfodol a helpu i wella argaeledd bwyd a gynhyrchir gartref trwy'r amser anodd hwn."

Marchnad yn diflannu

Roedd y penderfyniad i orchymyn cau bwytai ledled y DU fis diwethaf - fel un ffordd o geisio cyfyngu ar ledaeniad coronafeirws - yn ergyd enfawr i'r sector cig coch.

Diflannodd farchnad enfawr ar gyfer cig Cymreig dros nos - cig oen, ond yn enwedig cig eidion.

Ledled Prydain, mae'r sector gwasanaethau bwyd - sy'n cynnwys bwytai a gwestai - werth £100bn y flwyddyn, ac mae'r sector manwerthu werth £90bn.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hybu Cig Cymru'n annog archfarchnadoedd a chwsmeriaid i ddefnyddio ystod eang o gig

Mae gan Hybu Cig Cymru (HCC) ymgyrch ar y gweill i annog manwerthwyr i stocio mwy o'r toriadau cig eidion sydd fel arfer yn gysylltiedig â bwytai, tra hefyd yn perswadio cwsmeriaid i'w prynu er mwyn eu coginio gartref.

Dywedodd prif weithredwr HCC, Gwyn Howells: "Mae'r galw yn gryf yn y siopau, ond mae'r galw yn wahanol.

"Mae digon o alw am friwgig a thoriadau mwy rhad, a chig sy'n gallu rhewi yn hawdd iawn - ond llai o alw am y stecs a'r cig rhost oedd yn cael eu gwerthu yn y bwytai a'r gwestai.

"Felly mae hwnna wedi diflannu, ac mae gwerth yn y carcass dan straen ofnadwy.

"Mae ymgyrch ar droed i berswadio nid yn unig y cwsmer i brynu'r stecs a'r cig rhost, ond hefyd i ddarbwyllo yr archfarchnadoedd i feddwl am y tymor hir a gwerthu ystod eang o doriadau fel ein bod ni'n gallu defnyddio yr anifeiliaid yn eu llawn werth."