Cwymp dramatig gwerthiant petrol yn bygwth gorsafoedd

  • Cyhoeddwyd
Pympiau petrolFfynhonnell y llun, Reuters

Mae perchnogion gorsafoedd petrol gwledig yn bryderus ynglŷn ag effeithiau coronafeirws ar eu busnesau, gyda nifer wedi gweld gostyngiad o dros 70% yng ngwerthiant tanwydd.

Dywedodd Iwan Arthur Jones, sy'n rhedeg garej Plasmoduron yn Llanuwchllyn ger y Bala: "Dwi erioed wedi gweld ffasiwn beth, sut mae'r busnes wedi tewi mor sydyn.

"Y broblem ydy, mae gan rywun danwydd yn y tanciau i'w werthu, a dydy'r bobl ddim yma i brynu. Mae o wedi chwarteru gwerthiant allan o'r garej.

"Hwyrach, y bwriad ydy torri arian, fe wnewn ni sbio ar hynny. Mae'r mecanic sydd yma wedi cael ei roi ar saib o'r gwaith, ar 80% ei gyflog.

"Mae lot o bobl leol yn gefnogol iawn chwarae teg. Mae'n rhaid i rywun ddal i fynd."

Disgrifiad o’r llun,

Iwan Arthur Jones: 'Dwi erioed wedi gweld ffasiwn beth'

Mae Carwyn James yn berchen ar Siop JK Lewis yng Nghrymych a Siop a Garej Glandy Cross yn Efailwen.

Mae'n dweud bod yna gwymp dramatig wedi bod yng ngwerthiant tanwydd ar y safle yn Efailwen.

"Ni lawr 68% ar ddiesel a 79% ar unleaded. Oni bai am y siop a'r popty lan yn yr hewl, sai'n gwybod shwd bydden ni'n bodoli," meddai.

Mae'r Gymdeithas sy'n cynrychioli Gwerthwyr Petrol, y PRA, wedi galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi gorsafoedd petrol annibynnol yng nghefn gwlad, gan rybuddio y bydd nifer yn gorfod cau oherwydd diffyg gwerthiant.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Carwyn James wedi gweld "cwymp dramatig" yn y gwerthiant

Maen nhw wedi galw ar fusnesau annibynnol i gael yr un hyblygrwydd gan gwmnïau tanwydd mawr, o ran talu biliau, ac sy'n cael ei roi i'r archfarchnadoedd.

Yn ôl Ed Evans o Gymdeithas Foduro'r RAC, mae'n allweddol bwysig fod pobl yn cefnogi gorsafoedd petrol gwledig.

"I gymharu â mis yn ôl, maen nhw'n gwerthu traean o diesel a petrol," meddai.

"Mae'r effaith yn mynd i fod yn ofnadwy os gaean nhw y gorsafoedd petrol."