Cannoedd yn gwnïo gwisgoedd i helpu gweithwyr iechyd

  • Cyhoeddwyd
Masgiau i'r gweithwyr iechydFfynhonnell y llun, Lucy Grace

Mae athrawes tecstilau wedi llwyddo i recriwtio dros 200 o wirfoddolwyr i wnïo gwisgoedd i'r gweithwyr iechyd yn sgil y coronafeirws.

Cafodd Nia Clements sydd yn byw ym mhentref Creigiau ger Caerdydd y syniad ar ôl cael sgwrs gydag un o'i phlant.

"Tua tair wythnos yn ôl, wrth siarad â Megan Clements fy merch hynaf sy'n 25 oed - ma' hi yn 'respiratory Physio' yn Ysbyty Queens yn Nottingham - wrth sgwrsio 'da hi dros FaceTime, fe ddywedodd ei bod hi yn gweld fod niferoedd y PPE yn isel, yn enwedig pan ei bod hi 'on call' yn ystod y nos," meddai.

Penderfynodd gysylltu gyda Llywodraeth Cymru er mwy cynnig helpu gan feddwl bod y sefyllfa yn debyg yma. O fewn diwrnod cafodd alwad ffôn yn derbyn ac fe aeth ati i chwilio am wirfoddolwyr.

Cafodd ymateb "anhygoel o bob rhan o Gymru" ar ôl bod ar Facebook meddai.

Gwnïo gwisgoedd tiwnic i'r gwasanaeth iechyd fydd y gwirfoddolwyr. Bydd rhai yn mynd i'r ysbyty dros dro yn yr hen Stadiwm Principality ac eraill i ysbytai ar draws y wlad.

Alexandra WorkWear sef cwmni sydd yn dylunio a chynhyrchu dillad fydd yn darparu'r gwisgoedd wedi eu torri yn barod.

'Helpu yn y rhyfel erchyll yma'

Mae deg hwb wedi ei drefnu i fynd i nol y gwisgoedd ar draws y de sef Caerfyrddin, Abertawe, Coed Duon, Casnewydd a sawl un ar draws Caerdydd.

Y gobaith yw cynhyrchu 366 o'r tiwnic y dydd meddai Nia.

"Roeddwn yn teimlo ei fod yn bwysig i helpu yn y rhyfel erchyll yma yn erbyn y feirws Covid-19.

"Dyma'r ffordd yr oeddwn i yn teimlo y byddwn yn gallu helpu'r GIG yng Nghymru - drwy fy sgiliau trefnu fel athrawes a hefyd fy sgiliau tecstilau i gynhyrchu y gwisgoedd sydd eu hangen mewn brys arnynt," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Rhedeg busnes ei hun yn creu dillad i blant oedd Emma Daniels cyn i'r feirws daro

Un o'r gwirfoddolwyr yw Nia Williams sydd hefyd yn byw yn Creigiau.

"Dwi'n siŵr y gwnawn ni lot o gyfraniad unwaith gawn ni ddechrau," meddai.

Y rheswm am gynnig gwnïo'r gwisgoedd meddai oedd ei bod hi'n, "holl, holl bwysig i wneud beth allwch chi neud yn yr amser tywyll yma."

Y gobaith yw dechrau ar y gwaith wythnos nesaf.

Nid nhw yw'r unig rai sydd yn mynd i fod yn brysur yn gwnïo yn yr wythnosau nesaf.

Mae cynlluniau tebyg wedi eu sefydlu ar draws y wlad gan gynnwys un yn Llanelli lle mae criw o wirfoddolwyr wrthi yn gwneud masgiau a bagiau dillad golchi.

Emma Daniels o'r Morfa yn Llanelli gychwynnodd y cwbl.

Ar ôl colli ei gwaith dros nos fe benderfynodd wneud masgiau hwyneb gyda deunyddiau sbâr oedd ganddi adref.

Disgrifiad o’r llun,

Hyd yn hyn mae'r grŵp yn Llanelli wedi creu 1400 o fasgiau hwyneb

12 wnaeth hi gyntaf ond ar ôl rhoi neges ar Facebook yn gofyn a oedd rhywun eu heisiau cafodd sawl ymateb.

"Dyna wnaeth fy nychryn i fwyaf- roedden ni yn cael ceisiadau gan fydwragedd yn y gymuned, nyrsys ardal, cartrefi gofal preifat. Roedden ni yn cael nifer o geisiadau gwahanol ond roedd y mwyafrif gan weithwyr iechyd," meddai.

Mae deg menyw nawr yn helpu Emma ac mae gŵr tacsi lleol wedi cynnig dosbarthu'r masgiau a'r bagiau i gyd am ddim.

Hyd yn hyn maen nhw wedi cynhyrchu 1400 o fasgiau wyneb a bron 500 o fagiau dillad golchi sef bagiau i'r gweithwyr iechyd allu rhoi eu dillad ynddynt ar ddiwedd shifft.

Ffynhonnell y llun, Mererid Lewis Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mererid Lewis Davies yn mwynhau creu'r 'scrubs' i'r gwasanaeth iechyd

Yn ardal Gwent mae gwirfoddolwyr yn rhan o grŵp 'AB Scrubbers' yn darparu gwisgoedd 'scrubs', hetiau a deunydd i amddiffyn y clustiau i fwrdd iechyd Aneurin Bevan.

Erbyn hyn mae 600 ohonynt yn gwnïo.

"Mae cymaint o ewyllys da wedi bod," meddai Lucy Grace o Gasnewydd, sy'n llefarydd ar gyfer y grŵp.

"Dyma bobl sydd yn gwnïo yn eu hystafell fyw.

"Mae rhai eraill ar draws y wlad wedi rhoi cynfasau gwely, carthenni. Rydyn ni yn y rhan o Gymru sydd wedi gweld y nifer uchaf o achosion o'r feirws ac mae pobl yn teimlo bod nhw eisiau helpu sut bynnag maen nhw'n gallu."

Ffynhonnell y llun, Mererid Lewis Davies
Disgrifiad o’r llun,

Mae patrymau a chyfarwyddiadau gwnïo ar wefan AB Scrubbers i'r rhai sydd eisiau gwirfoddoli ac yn byw yn ddalgylch bwrdd iechyd Aneurin Bevan

Clywed am y gwaith gwnïo trwy grŵp facebook lleol yng Nghrughywel wnaeth Mererid Lewis Davies, sydd yn byw yng Ngilwern.

Mae'r gwisgoedd yn cael eu defnyddio gan Ysbyty Neuadd Neville, cartrefi henoed a'r gwasanaethau brys meddai.

"Fi yn joio neud e, teimlo mae'r peth lleiaf allwn ni neud tra bod gweithwyr iechyd yn rhoi eu bywyde i drin pobl gyda'r feirws ofnadwy 'ma," meddai.