Ryan Giggs yn edrych ar ochr bositif gohirio Euro 2020

  • Cyhoeddwyd
Ryan GiggsFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae rheolwr Cymru Ryan Giggs yn dweud ei fod yn edrych ar ochr bositif y penderfyniad i ohirio pencampwriaeth Euro 2020 am flwyddyn.

Cyhoeddodd UEFA ar 18 Mawrth y byddai'r gystadleuaeth yn cael ei gohirio am flwyddyn oherwydd coronafeirws.

Bydd y twrnament yn awr yn cael ei chynnal rhwng 11 Mehefin a 11 Gorffennaf y flwyddyn nesaf gyda Cymru yn wynebu'r Swistir, Twrci a'r Eidal yn y gemau grŵp.

"Roedden ni'n paratoi ar gyfer yr haf gyda momentwm yn tyfu. Wrth gwrs hynny yw'r ochr negyddol," meddai Giggs.

"Yn amlwg mae e wedi golygu ein bod ni'n newid cynlluniau oherwydd roedden ni'n paratoi i berfformio'r haf yma.

"Roedden ni wedi bod i Baku ac i Rufain i gael golwg ar bethau ond bydd yn rhaid i ni ailadrodd hynny y flwyddyn nesaf.

"Ond dwi wastad yn ceisio edrych ar yr ochr bositif. Gobeithio y bydd ganddon ni Joe Allen, fyddai ddim wedi bod ar gael yr haf yma, ac y bydd David Brooks yn holliach.

"Hefyd fe fydd y chwaraewyr ifanc sydd wedi gwneud mor dda wedi cael blwyddyn arall o brofiad, felly mae 'na ddigon o bethau positif."