Gohirio pencampwriaeth Euro 2020 tan yr haf nesaf

  • Cyhoeddwyd
Dathlu ail gôl Aaron RamseyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bale, Allen a Ramsey yn dathlu gôl wnaeth helpu i sicrhau lle Cymru yn Euro 2020

Mae UEFA wedi cadarnhau bod pencampwriaeth Euro 2020 wedi cael ei gohirio am flwyddyn oherwydd y pandemig coronafeirws.

Daw'r penderfyniad wedi cynhadledd fideo brys rhwng y corff llywodraethu UEFA a phartneriaid allweddol ddydd Mawrth.

Dywedodd UEFA, y corff sy'n rheoli pêl-droed yn Ewrop, y bydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal rhwng 11 Mehefin ac 11 Gorffennaf 2021.

Mae'r penderfyniad yn golygu bod modd cynnal yr holl gemau sy'n weddill yn y cynghreiriau domestig, sydd wedi cael eu gohirio ar draws Ewrop oherwydd coronafeirws, yn ystod yr haf eleni.

Dywedodd llywydd UEFA, Aleksander Čeferin mai "iechyd cefnogwyr, staff a chwaraewyr yw ein blaenoriaeth bennaf".

Cymru i fod i herio'r Eidal

Roedd rowndiau terfynol y gystadleuaeth i fod i gael eu cynnal mewn sawl stadiwm ar draws Ewrop rhwng 12 Mehefin a 12 Gorffennaf eleni.

Roedd gêm olaf Cymru yng Ngrŵp A i fod ar 21 Mehefin, yn erbyn Yr Eidal yn Rhufain.

Yr Eidal sydd wedi cofnodi'r nifer fwyaf o farwolaethau y tu hwnt i'r wlad o ble darddodd yr haint, sef China.

Roedd carfan Ryan Giggs hefyd i fod i chwarae dwy gêm yn Baku, yn Azerbaijan - yn erbyn y Swistir ar 13 Mehefin, ac yn erbyn Twrci ar 17 Mehefin.

Cafodd gemau cyfeillgar Cymru yn erbyn Awstria a'r Unol Daleithiau - oedd fod i gael eu cynnal ddiwedd mis Mawrth - eu canslo yr wythnos ddiwethaf.