Hysbysebion cwrw, baco a ffwr yr hen Eisteddfodau

  • Cyhoeddwyd
blawd a chwrwFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Rhaglen yr Eisteddfod Genedlaethol - un o'r dogfennau pwysicaf i unrhyw Eisteddfodwr brwd (heblaw am y Cyfansoddiadau, wrth gwrs).

Fe welwch chi nifer o Gymry bob Awst, mewn cae yn rhyw gornel o'r wlad, yn heidio o gystadleuaeth i ddarlith i gig, oll gyda'u rhaglen ffyddlon yn eu llaw, i wybod pryd mae beth yn lle.

Mae'r rhaglen wedi bod yn rhan hollbwysig o'r brifwyl ers degawdau, ond mae'n siŵr y byddech chi'n synnu i weld rhai o'r hysbysebion oedd i'w gweld yn rhaglenni Eisteddfodau'r gorffennol, a hyd yn oed rhai Saesneg.

Mae Pennaeth Cyfathrebu'r Eisteddfod Genedlaethol, Gwenllian Carr, wedi bod yn pori drwy gasgliad y Brifwyl o raglenni a rhestrau testunau ac wedi dod ar draws nifer o hysbysebion diddorol, sydd yn rhoi cipolwg i ni o beth oedd wir yn bwysig i Gymry ddechrau'r 20fed ganrif...

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Roedd busnesau mawr yn hysbysebu yn y rhaglenni - fel y cwmni olew BP yn y rhaglen yma o 1924 - ond hefyd busnesau llai fel un Mr Thomas o Benybont, oedd eisiau helpu gyda'ch dolur gwddw yn 1915

"Appeal to a thoughtful class of people..."

Roedd cwmnïoedd mawr a bach yn hysbysebu yn rhaglenni'r Eisteddfod oherwydd ei fod yn cael ei ystyried yn benderfyniad busnes doeth iawn, meddai Gwenllian:

"Gwasg y Brython, Lerpwl, oedd yn gyfrifol am argraffu rhaglen yr Eisteddfod am flynyddoedd. Roedd rhestr testunau Eisteddfod Caernarfon 1921 yn cynnwys hysbyseb tudalen lawn, yn galw ar gwmnïau a busnesau i osod hysbysebion, gan nodi bod y rhaglen yn 'An exceptionally effective medium to advertise in, and one in which you make your appeal to a thoughtful class of people, and one from which satisfactory results are assured.'"

Roedd hynny yn amlwg yn ddigon o berswâd, hyd yn oed i gwmnïoedd llwyddiannus iawn, gan fod hysbysebion ar gyfer Fry's Chocolate a Jacob's Cream Crackers wedi ymddangos mewn rhaglenni Eisteddfodol dros y blynyddoedd.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae pob math o fusnesau a chynnyrch wedi cael eu hysbysebu dros y blynyddoedd

O chwilota yn y rhaglenni, fe welwch chi hysbysebion ar gyfer siopau dillad, cylchgronau, cerddoriaeth, pianos, ond hefyd pethau mor amrywiol â baco a chwrw, fel oedd yn rhaglen Eisteddfod Wrecsam yn 1912, sy'n peri syndod heddiw.

"Roedd yna hysbyseb eitha' amlwg i Wrexham Lager, a phan 'dach chi'n meddwl, o'dd hwn llai na degawd ar ôl y Diwygiad Mawr," eglura Gwenllian.

"Doedd dim bar ar y maes, wrth gwrs, am flynyddoedd lawer. Felly roedden nhw'n ddigon hapus i gymryd arian am hysbysebu alcohol, ond ddim yn fodlon ei werthu o."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Hysbysebu cwrw yn 1912 a baco yn 1931

Ddegawd yn ddiweddarach, hysbysebion baco oedd yn flaenllaw, rhywbeth na fyddai'n cael ei weld yn agos at unrhyw raglen neu restr testunau erbyn heddiw, meddai.

"Roedd cwmni Thomas Nicholls & Co. o Gaer yn hysbysebu'n rheolaidd am flynyddoedd yn ystod y cyfnod hwn, yn gwerthu Nicholls Union Jack Shag, gan ddatgan 'Critical Smokers say: Should be in everyone's mouth'.

"Ac roedd E Morgan a'r Cwmni, Amlwch yn gwerthu'u cynnyrch gan ddefnyddio'r slogan 'Gore Baco - Baco Amlwch: Nid oes eu rhagorach i smocio a'u cnoi'."

Hysbysebion 'di-chwaeth'

Mae natur yr hysbysebion sydd yn y rhaglenni wedi newid yn aruthrol hefyd. Un o hoff hysbysebion Gwenllian o'r casgliad yw un am siop ffwr yn Lerpwl. Roedd siopau ffwr yn hysbysebu bob hyn a hyn, meddai, ond dim ond pan oedd y brifwyl mewn lleoedd penodol.

"Pan oedd yr Eisteddfod mewn ardaloedd fwy trefol - efallai ychydig fwy 'crand', fel Lerpwl a Chaerdydd - roedd yna hysbysebion ar gyfer ffwr.

"Roedd cwmni R Neill & Son Ltd. o Lerpwl yn hysbysebu'r rheolaidd, ac erbyn heddiw, mae'u hysbyseb o raglen Eisteddfod Lerpwl 1929 yn ymddangos yn hynod o ddi-chwaeth - llun o 'sgwarnog yn crio, ac yn edrych i mewn i ffenest y siop ffwr, yn dweud 'Alas, my poor brother!', yn edrych ar rhyw het.

"'Sach chi byth yn gweld dim byd fel yna heddiw, wrth gwrs."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Dwy hysbyseb am siopau gwerthu ffwr - un o raglen Eisteddfod Lerpwl 1929 a'r llall o Eisteddfod 1938 yng Nghaerdydd

Cipolwg ar hanes

Mae cynnwys y rhaglenni yn gallu dweud llawer wrthym am y cyfnod - mae Gwenllian wedi sylwi ar newid mawr yn y mathau o bethau oedd yn cael eu hysbysebu yn y rhaglenni yn y cyfnod yn syth ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf.

"Roedd yr hysbysebion arferol, yn arbennig rhai lleol, wedi parhau i ymddangos drwy gydol y rhyfel - hyd yn oed yn rhestr testunau Eisteddfod y Barri 1920.

"Flwyddyn yn ddiweddarach, [gwelwn] hysbysebion ar gyfer llygaid artiffisial, coesau artiffisial... Mae'n amlwg bod y galw gymaint ar gyfer y mathau yna o beth yng nghefn gwlad Cymru a chymunedau Cymru, fel bod y cwmnïau mawr 'ma yn gweld fod yna werth iddyn nhw hysbysebu yn rhaglen y Steddfod ar gyfer pobl oedd eisiau coesau artiffisial ar ôl y rhyfel. 'A boon to the lame' meddai un ohonyn nhw, wrth hysbysebu coesau a breichiau artiffisial.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Hysbyseb am goesau artiffisial yn rhaglen Eisteddfod y Barri 1920

"Roedd gwneuthurwyr cerrig beddau wedi hysbysebu yn y rhaglen yn achlysurol dros y blynyddoedd, ond mae un llinell ar hysbyseb John Fletcher Limited, Monumental Works, Carnarvon, yn tynnu'r llygad yn rhestr testunau 1921, 'Contractors to HM Government', a oedd yn dangos fod y cwmni'n un o'r rheiny oedd yn cynhyrchu cerrig beddau ar gyfer milwyr yng Nghymru a thu hwnt."

Ac nid yr hysbysebion hynny yw'r unig rai sydd yn atgoffa rhywun o ddigwyddiadau tyngedfennol mewn hanes:

"Un o ddigwyddiadau mawr y byd yn 1912 oedd trychineb y Titanic, a laddodd gannoedd o deithwyr ar eu ffordd i America.

"Mae'n deimlad od gweld hysbyseb ar gyfer perchnogion y llong, White Star Line, a chwaer long y Titanic, HMS Olympic, yn rhaglen yr Eisteddfod ac mae'n codi'r cwestiwn a oedd yr hysbyseb wedi'i osod cyn taith y Titanic?"

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Hysbysebu llong 'Olympic' gan gwmni White Star Line yn rhaglen 1912

Rhestrau testunau yr Eisteddfodau 'coll'

Mae digon i'w ddarganfod a dysgu oddi wrtho yn y casgliad helaeth o raglenni a rhestrau testunau sydd gan yr Eisteddfod, meddai Gwenllian. Dim ond ambell i ddogfen sydd ar goll, ac mae ambell i lyfryn go arbennig yn y pentwr:

"Mae ganddon ni'r rhestr testunau ar gyfer 1914 pan oedd y Steddfod i fod i gael ei chynnal ym Mangor, ond cafodd hi ei gohirio oherwydd y Rhyfel Byd Cyntaf, ac mae ganddon ni'r rhestr testunau ar gyfer 1915, pan oedd hi i fod i gael ei chynnal yn Aberystwyth.

"Wrth gwrs, gafodd y Steddfod ei shiftio 'mlaen - eitha' tebyg i beth sydd wedi digwydd y tro yma."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Dau o Restrau testunau yr Eisteddfodau coll - Bangor 1914 a Cheredigion 2020

Mae'n siŵr, felly, y bydd Rhestr testunau Eisteddfod Ceredigion 2020 yn cael lle teilwng iawn yn y casgliad arbennig yma.

Hefyd o ddiddordeb: