I ble'r aeth yr hysbysebion Cymraeg?

  • Cyhoeddwyd

Mewn papurau newydd a chylchgronau, ar y we neu ar ochr y lôn, mae cwmnïau mawr y byd yn defnyddio pob math o ddulliau i gael ein sylw. Ar deledu, radio, cylchgronau neu arlein mae cyrraedd y gynulleidfa iawn yn holl bwysig a bu cryn gystadlu am sylw ac arian y Cymry Cymraeg am gyfnod.

A pha well ffordd i'n cyrraedd na thrwy wneud hynny yn Gymraeg?

Mor bell yn ôl â'r 1930au cynnar roedd cwmni diod Ovaltine yn hysbysebu ar flaen un o gylchronau mwyaf poblogaidd y cyfnod sef Y Ford Gron - a hynny'n uniaith Gymraeg.

Disgrifiad o’r llun,

Ovaltine yn Gymraeg - ar gyfer y Gaeaf, yr Haf, ac wrth fynd i'r gwely

Chwarter canrif yn ddiweddarach ac yr un oedd hanes sawl cwmni adnabyddus arall.

Yn ystod Haf 1954 cyhoeddodd cwmni Guinness gyfres o hysbysebion dan y teitl 'Diwrnod Da am Guinness' yn y wasg Gymreig a cynhyrchwyd arwyddion metal hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Cyfres o hysbysiadau gan gwmni Guinness

Trwy gydol y 1950au roedd gwneuthwyr esgidiau Dunlop hefyd yn gweld gwerth mewn hysbysebion uniaith Gymraeg yn rhaglenni'r Eisteddfod Genedlaethol.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Hysbyseb Dunlop yn rhaglen yr Eisteddfod Genedlaethol 1952

Dros y degawdau canlynol gwelwyd enwau mawr eraill hefyd yn dilyn yr un drefn o farchnata gan gynnwys Marks & Spencer, Park Drive, Raleigh a chwmni te Golden Stream.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Marks & Spencer yn hysbysebu yn rhaglenni'r Eisteddfod Genedlaethol yn yr 1980au

Disgrifiad o’r llun,

Sigarennau Park Drive yn targedu cwsmeriaid Cymraeg eu hiaith

Disgrifiad o’r llun,

Hysbyseb gan Raleigh

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Aeth un cwmni cyn belled â chreu enw i'w cynnyrch er mwyn denu yfwyr te o Gymru

Yn ystod y 1950au a'r 1960au defnyddiwyd llinellau o gynghanedd hyd yn oed wrth dargedu Cymry Cymraeg.

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r hysbyseb yma ar gyfer te Golden Stream yn defnyddio cynghanedd i ddenu cwsmeriaid

Beth sy'n gyfrifol am y newid?

Yn amlwg roedd cwmnïau yn gweld gwerth masnachol mewn cyrraedd y Cymry Cymraeg eu hiaith. Ond erbyn heddiw, mae'r arferiad hwnnw wedi hen ddiflannu.

Mewn oes dechnolegol mae posib dadlau na fuodd hi erioed yn haws i gwmnïau hysbysebu yn Gymraeg. Ond prin iawn yw'r enghreifftiau.

Nôl yn 2016, plesiodd gwmni byd-eang Coca Cola filoedd o Gymry drwy hysbysebu'n ddwyieithog, dolen allanol, er nid yn y Gymraeg yn unig.

Yn ystod pencampwriaeth pêl-droed yr Euros, yn dilyn llwyddiant tîm Cymru, aeth Budweiser ati i greu hysbyseb uniaith Gymraeg hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Hysbyseb gan gwmni Budweiser yn ystod Euro 2016

Ac yn ddiweddar gwelwyd hysbyseb anferthol, uniaith Gymraeg gan gwmni Netflix, am gyfres newydd sydd wedi ei ffilmio yng Nghymru. Roedd yn ddigon mawr ac anghyffredin i ddenu sylw miloedd o bobl at Twitter ac Instagram.

Nid yw’r post yma ar Twitter yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Twitter.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges twitter gan Cara Marshall

Caniatáu cynnwys Twitter?

Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges twitter gan Cara Marshall

Ond ar wahân i ambell esiampl fel hyn, anaml iawn y gwelwn hysbyseb uniaith Gymraeg mewn print heb sôn am ar deledu neu ar-lein. Beth tybed sy'n gyfrifol am y newid yma?

Yn ôl Dr Sara Parry, o Ysgol Fusnes Bangor, mae'n anodd darganfod y rheswm tu ôl i'r diffyg hysbysebu Cymraeg gan fod nifer o ffactorau ynghlwm â'r peth.

"Mae cyfuniad o elfennau yn y mater yma. Yn sicr mae cwmnïau o'r fath yn ystyried y costau hysbysebu dwyieithog ac yn enwedig yn yr hinsawdd economaidd yma. Hefyd, mae dulliau hysbysebu traddodiadol (hysbysebion ar dudalen lawn mewn cylchgronau arbenigol) yn dirywio'n gyffredinol oherwydd y gostyngiad yn nifer darllenwyr cylchgronau a'r ffyrdd newydd sydd i ddefnyddwyr ryngweithio â chwmnïau drwy'r cyfryngau cymdeithasol."

Heb os, mae cwmniau fel Netflix a Budweiser yn gwybod bod gwerth mewn hysbysebu yn iaith gyntaf unrhyw wlad ac wrth i'r defnydd o'r we gynyddu oni fyddai'n naturiol i hysbysebwyr droi eu golygon at y cyfrwng hwnnw?

"Efallai fod rhesymau logistaidd," meddai Dr Parry, sy'n uwch-ddarlithydd mewn marchnata: "Er enghraifft, mae gan M&S un dudalen Facebook a ffrwd Twitter sy'n gwasanaethu marchnad y Deyrnas Unedig ond nid oes fersiwn Gymraeg ar wahân ar gyfer y farchnad yng Nghymru.

Mi allent roi cynnig ar hynny o ystyried cost isel sefydlu tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol. Yn y tymor hir, fodd bynnag, byddai angen iddynt weld bod digon o gysylltiad â thudalennau o'r fath i gyfiawnhau'r adnoddau sydd eu hangen i'w cynnal."

Dywedodd Dr Parry: "Yn hytrach na llunio hysbysebion traddodiadol, maen nhw'n fwy tebygol o fuddsoddi mewn dwyieithrwydd sy'n wynebu'r cwsmer e.e. arwyddion Cymraeg yn y siop a staff sy'n siarad Cymraeg er mwyn gwella'r profiad a galluogi'r defnyddwyr i gyfathrebu yn eu dewis iaith. Mae Lidl, er enghraifft, wedi codi arwyddion dwyieithog ym mhob siop yng Nghymru."

Ond i fod yn deg â'r hysbysebwyr onid yw'r ffaith bod bron ddim siaradwyr uniaith Cymraeg erbyn hyn yn rhywbeth i'w ystyried a bod pawb bron, yn wahanol i ers talwm, yn deall Saesneg?

"Efallai y byddai'r dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn her i fenter fasnachol o'r fath, ond yn sicr byddai dangos parch at iaith swyddogol gwlad yn cael ei weld yn beth cadarnhaol gan gwsmeriaid Cymru, ac mae ymchwil yn dangos bod agwedd gadarnhaol o ran y brand yn arwain at gynyddu'r bwriad i brynu," ychwanegodd Dr Parry.

Hefyd o ddiddordeb: