Covid-19: 'Rhaid herio' cwmnïau yswiriant sy'n gwrthod talu

  • Cyhoeddwyd
Cadeiriau segur

Mae cwmni cyfreithiol yn dweud y gallai busnesau herio cwmnïau yswiriant sy'n gwrthod talu iawndal oherwydd y coronafeirws.

Mae Capital Law yn rhoi cymorth i ddwsinau o fusnesau ac unigolion lle maen nhw yn dweud bod yswirwyr yn gwrthod talu.

Yn ôl Cymdeithas Yswirwyr Prydain mae achosion unigol yn cael eu hystyried yn ôl eu teilyngdod ond nid yw mwyafrif y polisïau yn ymdrin â phandemigau.

Maen nhw'n dadlau y byddai gorfodi cwmnïau yswiriant i dalu am risgiau sydd heb gael eu cynnwys mewn cytundebau yn achosi iddyn nhw fethdalu.

Mae Cymdeithas yr Yswirwyr Prydeinig - ABI - yn dweud fod yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol wedi derbyn nad yw pandemigau yn dod o dan y mwyafrif o bolisïau yswiriant.

Ond mae Capital Law yn credu bod rhai cwmnïau yswiriant yn cymryd "golwg anghyfrifol, gyffredinol" ac yn gwrthod talu pan fydden nhw wedi talu o'r blaen.

Yr haint yn 'taro ar adeg anodd'

Dywedodd Cerys Furlong, sy'n berchen ar ddwy dafarn a bwyty yng Nghaerdydd, ei bod yn flin bod ei cheisiadau am daliad yswiriant wedi'u gwrthod er bod eu busnesau wedi eu gorfodi i gau.

"Byddai'r penwythnos yma fel arfer yn hynod o brysur i ni, gyda phenwythnos Gŵyl y Banc ar y ffordd - felly mae'n amser arbennig o anodd i fod ar gau."

Disgrifiad o’r llun,

Yr ansicrwydd am bryd fydd ei busnes yn cael ailddechrau ydy'r pryder mwyaf i Cerys Furlong

"Yr anhawster yw'r hyn sy'n anhysbys - ynglŷn â phryd y gallwn ni ddechrau masnachu eto. Dim ond ers tair blynedd rydyn ni wedi bod ar agor. Mae wedi ein taro ni ar adeg anodd iawn.

"Rydyn ni'n hyderus y byddwn yn ailagor ac yn rhoi ein hunain yn y sefyllfa orau i wneud hynny. Ond y'n ni'n gwerthfawrogi bod hyn yn effeithio ar bob busnes, sefydliad ac unigolyn."

Cafodd y busnes ei yswirio i gynnwys yswiriant ymyrraeth busnes, ond dywedodd Ms Furlong nad oedd yr ymateb gan y cwmni yswiriant hyd yn hyn yn gadarnhaol.

Mae'r cyfreithiwr, Guto Llewelyn, eisoes wedi cael achosion lle mae'r yswirwyr wedi newid eu safbwynt ar ôl cael eu herio.

Dywedodd na ddylai busnesau sy'n cael ceisiadau wedi'u gwrthod fod yn "ddigalon", ac yn hytrach fe ddylen nhw gael cyngor cyfreithiol i weld a oes modd mynd ar drywydd yr hawliad ar sail manylion y cytundeb sydd ganddyn nhw.

Dywedodd Ms Furlong ei bod yn teimlo'n ddig eu bod wedi talu am y polisi a bod angen help arnyn nhw nawr i dalu am golli stoc a'r gost o ailagor yn y pen draw.

"Mae gennym gymalau penodol yn rhai o'n polisïau a ddylai ein gwneud ni'n gymwys ar gyfer taliad o ganlyniad i achosion o glefydau heintus, ond er gwaethaf hynny, dywedwyd wrthym ni nad ydyn ni am gael taliad - sy'n siom fawr.

"Ry'n ni'n talu miloedd o bunnoedd y flwyddyn am bolisïau yswiriant - dyw e ddim yn rhywbeth y'n ni'n disgwyl hawlio arno.

"Rwy'n credu mai'r agwedd yw oni bai bod y geiriau coronafeirws neu Covid-19 wedi'u nodi yn eich polisïau, nid ydych chi'n cael taliad. Wel, doedd neb yn gwybod beth oedd o nes iddo ddigwydd.

Ychwanegodd: "Ar y dechrau roedden ni yn weddol hyderus y byddem ni yn cael ein cynnwys ond y'n ni wedi cael ein synnu gan yr ymateb hyd yn hyn."

Dywedodd Ms Furlong bod mwy o ddeialog wedi bod gyda'r cwmni yswiriant ar ôl iddi gysylltu â chyfreithwyr, ond mae hi'n pryderu efallai na fydd eraill mewn sefyllfa i gael cyngor cyfreithiol.

Dywedodd fod angen i bobl edrych yn ofalus ar eu polisïau, siarad â busnesau bach eraill a gweld beth allech chi ei ddysgu.

Yn ôl Cymdeithas Yswirwyr Prydain mae achosion unigol yn cael eu hystyried yn ôl eu teilyngdod, ond byddai gorfodi cwmnïau yswiriant i dalu am risgiau sydd heb gael eu cynnwys mewn cytundebau yn achosi iddyn nhw fethdalu.