Technoleg yn helpu cynhyrchwyr bwyd i gyrraedd cwsmeriaid
- Cyhoeddwyd
Gyda chymorth technoleg, mae cynhyrchwyr bwyd yng ngorllewin Cymru'n darganfod ffyrdd newydd o gyrraedd eu cwsmeriaid.
Mae marchnadoedd ffermwyr Hwlffordd, Aberystwyth ac Aberaeron - sydd wedi gorfod cau yn sgil y cyfyngiadau presennol - wedi uno i greu hwb bwyd ar-lein.
Mae cwsmeriaid yn gallu archebu bwyd ar y we ac yna casglu'r cynnyrch ar amser - ac mewn lleoliad - penodol.
Mae'r fenter wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn ôl Euros Havard-Evans, sy'n gyn-gadeirydd marchnad ffermwyr Hwlffordd ac sy'n rhedeg cwmni wyau maes, Pennsylvania Eggs.
"Ar y dechre, pan 'nath y llywodraeth gau popeth, we ni ddim yn siŵr shwt bydde'r farchnad yn mynd i gadw mlaen," meddai.
"Ond w'thnos yma, ma'r archebion lan, a ma' mwy o gynhyrchwyr yn dod ar-lein. 'Dwi'n meddwl bod 25 nawr wedi cofrestru."
Mae'r hwb ar-lein wedi mynd o nerth i nerth. Pythefnos yn unig ers cael ei sefydlu, mae marchnad Hwlffordd wedi derbyn bron i 70 o archebion, gyda 15 o gynhyrchwyr bwyd o Sir Benfro.
'Pobl ishe helpu'r ffermwyr lleol'
Yn ôl Mr Havard-Evans, mae cwsmeriaid yn awyddus i gefnogi cynhyrchwyr lleol.
"Ma' pobl ishe helpu'r ffermwyr lleol achos ma' nhw ishe'r stwff mwya' ffres gallan nhw gael - ac yma, ma' nhw'n gallu gael e!
"'Dwi'n meddwl bydd rhai pobl yn mynd nôl i'r hen ffordd, ond ma' lot o bobl yn 'neud lot mwy ar y we a gobeithio dewn nhw nôl pan fyddwn ni ar agor eto."
Mae ffigyrau diweddar yn dangos bod 35% o'r bwyd sy'n cael ei fwyta yn y DU mewn cyfnod arferol, yn cael ei baratoi tu allan i'r cartref - mewn tai bwyta, caffis neu trwy wasanaeth pryd ar glud.
Mi gollodd nifer o gynhyrchwyr bwyd eu marchnadoedd dros nos wrth i'r busnesau hynny orfod cau ac yna edrych am ffyrdd amgen o werthu eu cynnyrch.
Y gobaith gan gynhyrchwyr bwyd yw y bydd arferion siopa yn newid ar ôl y cyfnod presennol wrth i bobl droi at gynnyrch lleol.
Mae Euros Havard-Evans yn ffyddiog y bydd cwsmeriaid yn cofio gwerth bwyd lleol pan fydd y cyfyngiadau yn cael eu codi.
"Un peth sy' wedi dod mas o hyn - ma' pobl yn mynd i'r siop leol ar bwys, yn lle mynd i'r archfarchnad.
"Gyda wyau ni - ni'n neud yn eitha' da i ddweud y gwir - ni'n mynd i ddechre nawr gyda'r hwb yma ac ma' pethe'n edrych yn addawol.
"Ma ffermwyr yn dda yn addasu - ma' nhw'n gallu newid fel sy' angen a chymryd y dechnoleg ddiweddara i helpu."
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2020