Pryder am effaith goryfed tra'n hunan ynysu gartref
- Cyhoeddwyd
Mae yna bryder y gallai pobl ddatblygu arferion yfed trwm "hirdymor" o ganlyniad i yfed tra'n ynysu gartref, yn ôl un elusen.
Dywedodd Andrew Misell, cyfarwyddwr Cymru elusen Alcohol Change UK y dylai pobl oedi a meddwl am faint a pha mor aml y maen nhw'n ei yfed.
Mae gwaith ymchwil gafodd ei gomisiynu ar ran yr elusen yn awgrymu bod dros chwarter yr oedolion yng Nghymru sy'n yfed alcohol wedi cynyddu faint maen nhw'n ei yfed.
Ond mae'r gwaith ymchwil hefyd yn awgrymu fod dros un ymhob tri wedi lleihau neu stopio yfed alcohol yn llwyr.
Ym mis Mawrth roedd yna naid o 31% mewn gwerthiant alcohol, sydd yn llawer uwch na gwerthiant cyffredinol mewn archfarchnadoedd.
Strwythur i ddiwrnod
Daeth Meg Payne, 23 oed o Gaerdydd, i'r casgliad bod angen iddi "strwythuro ei diwrnod" ar ôl sylweddoli ei bod hi'n yfed ar ddiwrnodau na fyddai'n ei wneud fel arfer.
"Mi wnes i sylweddoli bod edrych ymlaen at ddiod ar ddiwedd y dydd yn rhywbeth yr oeddwn i'n ei wneud yn fwy aml," meddai.
Er nad yw hi'n yfed yn drwm nag yn aml fel arfer, mae'n dweud ers iddi fod ar saib o'r gwaith trwy gynllun cadw swyddi Llywodraeth y DU, mae "diflastod" wedi cyfrannu at newid yn ei harferion yfed.
"Ar ddechrau'r cwarantin a chyfnod lockdown, mi oeddwn i'n yfed mwy," meddai.
"Roedd hi ryw bythefnos cyn i mi gymryd golwg ar bethau a sylweddoli nad oedd hynny'n rhywbeth o'n i eisiau digwydd.
"Rydw i wedi cymryd camau i edrych ar strwythur fy niwrnod a sylweddoli mod i am fynd yn ôl i edrych ymlaen at alcohol ar y penwythnos yn unig."
Gwaith ymchwil
Mae gwaith ymchwil gan Alcohol Change UK yn awgrymu bod dros draean o oedolion yng Nghymru sy'n yfed alcohol fel arfer wedi gostwng faint y maen nhw'n yfed, yn debyg i Meg Payne.
Fodd bynnag, mae'r gwaith ymchwil hefyd yn awgrymu bod dros chwarter yr oedolion yng Nghymru sy'n yfed alcohol yn yfed mwy ers i fesurau'r llywodraeth ddod i rym.
"Y perygl, o bosib, yw bydd rhai pobl yn magu arferion yfed trwm sy'n parhau wedyn," meddai Andrew Misell, cyfarwyddwr yr elusen yng Nghymru.
"Yn amlwg, dyna lle mae rheswm i ni ddechrau poeni am iechyd corff a meddwl pobl.
"Hyd yn oed i'r rhai ohonom ni sydd ddim yn wynebu perygl uniongyrchol y firws, mae'n siŵr ein bod ni'n teimlo'r straen.
"Dwi'n meddwl bod nifer fawr ohonom ni yn sylweddoli faint roeddwn ni'n hoffi bod allan o'r tÅ·."
Cynnydd - a gostyngiad
Fe wnaeth yr elusen hefyd ddarganfod cynnydd sylweddol yn nifer y bobl oedd yn chwilio am help i reoli eu harferion yfed.
Fe wnaeth y nifer o ymweliadau i dudalen "Get Help Now" Alcohol Change UK gynyddu bron i 400% yn y mis diwethaf o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
AMSERLEN: Effaith haint coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
Yn ôl ffigyrau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol, fe wnaeth gwerthiant alcohol gynyddu 31% ym mis Mawrth, ac fe welwyd cynnydd ymysg gwerthiant ehangach mewn archfarchnadoedd hefyd - sef cynnydd o 10.3% dros yr un cyfnod.
I Meg Payne, mae ymarfer corff wedi helpu iddi strwythuro ei diwrnod a'i hannog i "godi a dechrau bwrw iddi."
Gweithgareddau ar gael
Mae Emily Tucker yn actores a hyfforddwr personol, sy'n cynnig sesiynau ymarfer i dros 2,000 o ddilynwyr ar Instagram.
Mae'n dweud bod y gweithgareddau sydd ar gael ar-lein yn gallu helpu unigolion i osgoi'r diflastod sy'n gallu arwain ar yfed mwy.
"Os chi'n teimlo bod [alcohol] yn dechrau datblygu i fod y brif ffynhonnell o ddiddanwch, byswn i'n sicr yn edrych ar y cynnwys sydd ar gael ar y we," meddai.
"Dw i'n gwybod bod pobol yn cynnig gwersi iaith ar-lein am ddim. Mae yna bobl yn gwneud yoga, mobility fitness, coginio - mae cymaint ar gael."
Dywedodd bod poblogrwydd heriau yfed a'r argraff bod eraill yn bod yn gynhyrchiol yn ystod y sefyllfa bresennol yn gallu gwneud i bobl deimlo "o dan bwysau".
Cyngor Emily yw bod "angen bod yn glên gyda'ch hunan".
"Mae modd i chi gael rhywbeth yn eich llaw - s'dim rhaid iddo fod yn alcohol, gall fod yn ddiod ysgafn," meddai Meg.
"Yr hyn sy'n bwysig ydy eich bod chi'n cadw mewn cysylltiad â phobl ac yn gwneud yn siŵr eich bod chi'n iawn. Does dim rhaid iddo droi o amgylch alcohol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd13 Tachwedd 2017