Coronafeirws: Cynnydd mewn achosion o feicio anghyfreithlon
- Cyhoeddwyd
Mae pryder bod mwy o bobl yn gyrru oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon ers dechrau'r argyfwng coronafeirws yng Nghymru.
Mae achosion ym mhob cwr o'r wlad lle mae'r heddlu wedi arestio sawl un dros yr wythnosau diwethaf.
Clybiau golff, traethau a rhai o fannau hardda'r wlad yw rhai o'r lleoliadau mae beicwyr wedi cael eu ffilmio yn gyrru oddi ar y ffyrdd yn anghyfreithlon.
Yn Abertawe ym mis Ebrill, cafodd beicwyr eu ffilmio yn gyrru rhwng pobl ar y traeth.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys ddydd Sul fod 19 o bobl wedi cael cosb am yrru o Lannau Mersi er mwyn mynd i feicio oddi ar y ffordd yng Nghymru.
Mae Heddlu Gwent hefyd yn dweud bod 'na gynnydd wedi bod mewn beicio anghyfreithlon oddi ar y ffyrdd ers i'r cyfyngiadau ddod i rym.
Fe ffilmiodd Andy Oram, o Benrhyn Gŵyr, grŵp o feicwyr ym Mae'r Tri Chlogwyn fis diwethaf.
"Rwy wedi cerdded ar draeth Pennard sawl gwaith yr wythnos ers 19 o flynyddoedd, ond dwy ddim wedi gweld hyn o'r blaen," meddai.
"Maen nhw'n cymryd mantais. Dyw'r pethau 'ma ddim yn digwydd yn ystod adegau arferol. Mae hyn yn anarferol gan nad oes pobl yna."
Dywedodd yr arolygydd Aled George o Heddlu Gwent: "Mae'n broblem eang, hirdymor.
"Does dim ffyrdd hawdd o ddatrys hyn, felly ry'n ni wedi defnyddio sawl mesur ymarferol. Ry'n ni wedi galw rhagor o swyddogion, a chymryd agwedd gadarn.
"Mae gyrru beics oddi ar y ffyrdd yn anghyfreithlon ar unrhyw adeg. Dyw e ddim yn ffordd gyfreithlon o hamddena, nac o ymarfer corff.
"Mae mwyafrif y cyhoedd yn cadw at y rheolau, ond ry'n ni wedi cynnal yr ymgyrch yma i weithredu yn erbyn pobl sy'n torri'r rheolau.
"Byddwn ni'n dal ati i gynnal ymgyrchoedd fel hyn drwy gydol yr argyfwng yma."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2020