Ffoto T: Her tynnu lluniau yr Urdd a Cymru Fyw

  • Cyhoeddwyd
Logo yr urddFfynhonnell y llun, Yr Urdd

Sut fyddwch chi'n cofnodi a chofio'r cyfnod rhyfedd yma?

Mae Cymru Fyw yn falch o gefnogi cystadleuaeth FfotoT, sy'n rhan o ddigwyddiad Eisteddfod T, dolen allanol. Dyma gyfle i bobl ifanc fod yn greadigol yn y cartref, dysgu am ffotograffiaeth a rhannu eu profiadau.

Mae dau grŵp oedran ar gyfer y gystadleuaeth:

  • 13 oed ac iau: bydd angen cyflwyno 1 llun i gystadlu yn y categori yma.

  • 14 oed ac uwch: bydd angen cyflwyno casgliad o 3 llun er mwyn cystadlu yn y categori yma.

Y thema ar gyfer y ddau grŵp oedran yw 'Adref'. Bydd y gystadleuaeth yn cael ei beirniadu gan ffotograffwyr proffesiynol, a'r gwaith buddugol yn cael eu cyhoeddi ar Cymru Fyw.

Dyddiad cau'r gystadleuaeth yw 19 Mai am hanner dydd. Er mwyn cystadlu anfonwch eich lluniau ynghyd ag enw llawn a'ch rhanbarth at cyfansoddi@urdd.org.

Fe fydd angen cydymffurfio â chanllawiau ymbellhau cymdeithasol y llywodraeth wrth greu'r oriel, yn ogystal ag amodau cystadlu arferol Eisteddfod T. Nid oes rhaid bod yn aelod o'r Urdd i gystadlu.

Caiff y gystadleuaeth yma ei gweinyddu gan Yr Urdd ac mae'r holl amodau a rheolau i'w gweld yma, dolen allanol.

Er mwyn eich ysbrydoli cyn mynd ati, dyma gyngor gan Gruffydd Thomas, sy'n ffotograffydd digwyddiadau yng Nghaerfyrddin.

Meistroli gosodiadau eich camera

Dwi'n annog pobl i gymryd mwy o reolaeth o'r gosodiadau ar eu camera, ac arbrofi gyda beth sy'n bosib pan nad ydych chi'n gadael i'r camera wneud yr holl benderfyniadau.

Tynnwch y llwch oddi ar y llyfryn cyfarwyddiadau (neu ddod o hyd iddo ar-lein) a gweld pa mor greadigol allwch chi fod, yn enwedig drwy ddefnyddio'r gosodiadau Aperture Priority a Shutter Priority (neu hyd yn oed Manual).

- Mae Aperture Priority yn gadael i chi reoli maint yr agoriad sydd yn gadael y golau i mewn i'r camera (e.e. mae f/2.8 yn gadael mwy o olau i mewn na f/22), ond mae hefyd yn effeithio ar faint o'r llun fydd mewn ffocws.

- Mae Shutter Priority yn gadael i chi reoli pa mor hir mae shutter y camera ar agor.

Mae nifer o ffonau symudol yn gadael i chi gymryd mwy o reolaeth o'r gosodiadau hefyd, felly does yna wir ddim esgus!

Portreadau

Mae miliynau o hunluniau yn cael eu cymryd bob dydd ar draws y byd, ond nawr efallai yw'r amser i droi'r camera rownd, a gwella safon eich lluniau.

Mae goleuo, wrth gwrs, yn bwysig, ond cymerwch sylw o'r cefndir hefyd. A pheidiwch â mynd yn rhy agos gyda lens ongl llydan - byddai'n gallu newid wyneb y model!

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Amser cinio poeth, heulog yn yr ardd, a dwi wedi tynnu llun sydyn o fy merch, Angharad. Oherwydd fod yr haul yn uchel yn yr awyr, mae'r cysgodion yn galed ac mae ei llygaid ychydig ynghau. Cyflymdra shutter: 1/200fed eiliad; Aperture: f/10.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Rydyn ni wedi symud o'r haul i'r ystafell haul gysgodol lle mae'r golau'n feddalach ac yn fwy hafal. Gwell, ond ddim yn arbennig - ac mae'r cefndir yn flêr. Er mwyn gwneud y cefndir yn aneglur, bydd rhaid i mi gynyddu'r aperture (h.y dewis rhif f llai). 1/100fed; f/8.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Er mwyn creu cysgodion meddal, rydyn ni wedi symud at ffenest fawr ar ddiwrnod cymylog, fel ein bod ni'n gweld y golau meddal, gwasgaredig sydd yn y llun cynt, ond o un cyfeiriad yn unig. Dwi wedi gosod darn mawr o gerdyn gwyn ar y chwith er mwyn adlewyrchu ychydig o olau ar ochr arall wyneb y model ac wedi cynyddu'r aperture i wneud y cefndir plaen yn aneglur. 1/80ain; f/4.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Yn olaf, gall prop yn aml ychwanegu ychydig o ddiddordeb neu gyd-destun i bortread. 1/80ain; f/4.

  • Defnyddio camera ffôn symudol

Cafodd y ddau lun yma eu tynnu gyda ffôn symudol, gyda'r model yn yr un safle â'r llun uchod.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Mae'r llun ar y chwith braidd yn angharedig a chafodd ei dynnu gan ddefnyddio gosodiadau awtomatig y camera. Ond gyda'r llun ar y dde, fe ddewisais osodiadau Pro y camera. Newidiais gyflymdra'r shutter a'r aperture i fod yr un peth â'r rhai oedd yn y lluniau uchod.

Ffotograffiaeth yn yr ardd

  • Blodau

Mae'r rhai ohonon ni sy'n ddigon lwcus i fod â gardd wedi gallu treulio mwy o amser ynddi yn ddiweddar, ond mae yna gyfleoedd da i dynnu lluniau hyd yn oed gyda'r balconi lleiaf neu focs blodau hyd yn oed.

Ceisiwch osgoi golau caled canol dydd, ac ewch yn agos at beth bynnag rydych yn tynnu ei lun.

Os allwch chi, dewiswch aperture mawr (rhif f bychan). Bydd yn helpu i feddalu (blur) y cefndir.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Cafodd y llun yma ei dynnu yn ngolau caled haul canol dydd, gydag aperture bach (sy'n golygu fod y cefndir mewn ffocws ac yn tynnu sylw o'r blodyn ei hun), ac nid yw'n gwneud cyfiawnder â'r blodyn. 1/400fed; f/10.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Arhosais ychydig o oriau er mwyn cael golau meddalach, es i'n agosach a chynyddu'r aperture felly mae llai o'r cefndir mewn ffocws. Dwi hefyd wedi defnyddio cyflymdra shutter eithaf cyflym, gan fod blodau yn tueddu i symud eithaf dipyn yn yr awel. 1/500fed; f/2.8.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Mae golau cynnar y bore yn wych ar gyfer tynnu lluniau yn yr ardd. Yma, dwi wedi edrych ar rannau gwahanol o'r un planhigyn.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Arbrofwch gydag onglau. I dynnu'r llun yma, defnyddiais ysgol er mwyn edrych i lawr i mewn i'r blodyn. 1/500fed; f/5.

  • Adar

Byddwch chi angen lens teleffoto er mwyn tynnu lluniau llwyddiannus o adar (o leiaf 200mm), a llawer o amynedd.

Gwnewch i'r aderyn sefyll allan oddi wrth weddill y cefndir drwy ddefnyddio aperture mawr a defnyddio shutter cyflym - yn gyntaf i leihau unrhyw gryndod posib i'r camera, ond hefyd oherwydd hyd yn oed pan maen nhw'n llonydd, mae adar wastad fel petaen nhw'n symud ychydig bach.

Fel mewn unrhyw ffotograffiaeth portread, canolbwyntiwch ar y llygaid.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Mae'r aderyn yma yn rhy fach o fewn y ffrâm, ac mae'r goeden yn cymryd gormod o'n sylw. Defnyddiwch fwyd adar i'w hannog i lawr i'ch gardd neu falconi er mwyn cael llun cliriach.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Mae'r aderyn yma yn fwy yn y ffrâm, ond mae tynnu ei lun o flaen awyr mwy llachar yn golygu fod y camera wedi gwneud yr aderyn yn rhy dywyll.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Mae'r robin goch yma hefyd o flaen cefndir llachar, ond dwi wedi addasu fy ngosodiadau i gywiro hyn. Drwy ddewis gosodiad Aperture Priority neu Shutter Priority, gallwch wneud hyn drwy ddefnyddio Exposure Compensation i adael mwy o olau i mewn.

Tynnu lluniau tu mewn

Mae nifer ohonon ni tu mewn mwy nag erioed, ond mae ffotograffiaeth tu mewn yn achosi nifer o heriau goleuo.

Efallai y bydd eich camera yn ychwanegu'r fflach yn awtomatig mewn golygfa dywyll, felly dysgwch sut i'w ddiffodd pan nad oes ei angen.

Hefyd, pan ydych chi'n tynnu lluniau mewn golau isel, mae angen i chi sicrhau fod cyflymdra'r shutter ddim yn mynd yn rhy isel, neu mae peryg y bydd y lluniau yn blurry os fydd eich camera'n ysgwyd neu destun y llun yn symud.

Ac mae cael ffenest yn y llun yn gwneud pethau yn anoddach fyth...

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Heb ymyrraeth gen i, mae'r camera wedi dewis gosodiadau sydd yn cysoni'r golau, sydd yn gadael y model, Morgan, yn dywyll a'r ffenest wedi ei goroleuo. 1/200fed; f/4.5.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Gallwn i gau'r llenni (ond byddai hynny'n golygu fod yr ystafell yn dywyll iawn), neu hepgor y ffenest o'r olygfa yma yn gyfangwbl. Ond dwi eisiau cynnwys yr olygfa o'r byd tu fas yn y llun. Felly ar gyfer y llun yma, dwi wedi lleihau'r aperture, sydd yn gadael llai o olau i mewn, fel fod y tu fas wedi ei oleuo, a dwi wedi troi'r fflach ymlaen er mwyn goleuo'r model a'r ystafell. Fodd bynnag, mae'r fflach wedi creu cysgodion caled tu ôl i'r model ac o dan ei ên. 1/200fed; f/14.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Os allwch chi, ceisiwch fownsio'r fflach oddi ar y nenfwd, i greu golau meddalach yn y stafell. Mae'r cysgodion hyll wedi mynd, ond mae yna dal adlewyrchiad gan y fflach yn y ffenest. 1/200fed; f/14.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Er mwyn osgoi adlewyrchiad y fflach yn y ffenest, dwi wedi symud i un ochr. Mae gen i nawr lun o'r tu mewn a'r tu fas wedi eu goleuo'n dda. 1/200fed; f/14.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

I greu delwedd mwy trawiadol, rydw i wedi cael gwared ar y fflach, ac wedi defnyddio golau uwchben ac i'r dde o'r camera, er mwyn rhoi'r model mewn sbotolau a chreu cysgod dramatig tu ôl iddo. 1/200fed; f/14.

Lluniau o symud

Rhaid i chi sicrhau fod cyflymdra eich shutter yn ddigon cyflym pan mae testun eich llun yn symud. Mae hyn yn berthnasol pan ydych chi'n tynnu lluniau o blant yn chwarae, anifeiliaid a chwaraeon.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Cyflymdra shutter 1/60ain.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Cyflymdra shutter 1/2000fed.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Rydyn ni i gyd yn gorfod cadw pellter ar hyn o bryd, a weithiau gall hyn weithio mewn ffotograffiaeth hefyd, pan mai eich greddf ydi mynd yn agos.

Bywyd llonydd

Byddai casglu a thynnu lluniau gwrthrychau gyda'i gilydd yn ffordd wych o ddweud stori eich cyfnod dan glo ac ymarfer eich ffotograffiaeth yr un pryd.

Rydw i wedi bod yn defnyddio fy amser i wella fy Nghymraeg yn ystod yr wythnosau diwethaf, a meddyliais i y byddai'n destun llun da. Fe wnes i gasglu propiau ar ei gilydd a thrio nifer o wahanol osodiadau ac onglau cyn setlo ar y cyfansoddiad terfynol.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Dwi wedi canolbwyntio ar y testun drwy'r sbectol ond, drwy ddefnyddio aperture bach o f/10, mae llawer o'r olygfa yma mewn ffocws, a does yna ddim gwir un pwynt ffocws i'r llun i dynnu'r gynulleidfa i mewn.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Yma, dwi wedi agor yr aperture i f/3.5, sy'n golygu fod llai o'r llun mewn ffocws. Mae rhannau aneglur yn y blaen a'r cefn nawr yn helpu i dynnu llygad y gynulleidfa.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Fodd bynnag, o'n i hefyd yn meddwl fod lliwiau'r llyfrau yn tynnu gormod o sylw, felly newidiais osodiad y propiau, a newid y llun i ddu a gwyn.

Ffynhonnell y llun, Gruffydd Ll. Thomas

Dyma lun arall sydd yn dweud rhan o stori'r cyfnod i mi. Chwiliwch am gyfloeodd bywyd llonydd mewn diddordebau newydd, rwtîn sydd wedi newid, coginio... unrhyw le!

Hefyd o ddiddordeb: