Perchennog siop lyfrau yn Aber yn gweithio yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
"Wedi i'r cyfyngiadau coronafeirws ddod i rym, mae fy ngwaith fel perchennog siop lyfrau yn Aberystwyth wedi newid yn ddirfawr," meddai Angharad Morgan.
"Mae ambell un yn ffonio fi am lyfrau neu gardiau ac wy'n trefnu eu cludo ond ar wahân i hynny mae'r busnes ar stop.
"Mae pawb eisiau byw a phan weles i fod yr ysbyty lleol yn recriwtio staff - es i amdani."
Dywedodd Ms Morgan, perchennog Siop Inc, ei bod yn gwerthfawrogi'r arian sydd wedi'i roi i'r busnes gan y cyngor lleol drwy Senedd Cymru a bod ganddi gynilion wrth gefn, ond bod costau eraill fel talu am y car, rhent y siop a chostau byw o ddydd i ddydd yn parhau.
"Be sy'n anodd gwybod yw am ba mor hir fydd y cyfnod yma yn parhau," meddai.
"Mae rhywun am i bawb fod yn saff, wrth gwrs, ond mae'n anodd ar fusnesau ac unwaith y cawn ni agor, rwy'n siŵr y cymrith hi sbel i ni gyrraedd lle ro'n ni."
'Y gwaith yn fendithiol'
Fel nad yw hi'n gorfod poeni'n ormodol am y biliau, mae Ms Morgan bellach yn gweithio dridiau'r wythnos yng nghegin Ysbyty Bronglais.
"I 'weud y gwir fi'n joio," meddai. "Ro'n i'n arfer gwneud y math yma o waith yn ystod gwyliau haf y coleg.
"Gan fod gen i ddim cyfrifoldebau gofal, mae'r gwaith yn siwtio'n iawn.
"Golchi llestri fi'n neud fwyaf a pharatoi bwyd i'r cleifion - mae'r gwaith yn fy helpu i a gobeithio bo' fi hefyd yn 'neud cyfraniad."
Ychwanegodd Ms Morgan ei bod wedi poeni rhywfaint am ddychwelyd i'r ysbyty gan fod ei mam wedi bod yn glaf yno am fisoedd cyn ei marwolaeth yn 2018.
"Ond i ddweud y gwir, mae wedi bod yn hyfryd gweld y nyrsys oedd yn gofalu am mam," meddai.
"Mae'r gwaith hefyd wedi 'neud i fi sylweddoli bod nifer yn yr un cwch â fi - mae yma drydanwr wedi dod i weithio yma gan nad oes ganddo waith a chogydd o un o'r bwytai lleol - mae'n grêt ac ry'n yn cael lot o hwyl er gwaetha'r amgylchiadau.
"Ydy, er bod cyfran o waith y siop yn parhau drwy'r cyfryngau cymdeithasol - mae'r gwaith yma yn fendithiol.
"Fydden i'm yn dweud bod y net gwallt a'r iwnifform yn rhywbeth i'w arddangos - ond mae'n braf ar ddiwedd y dydd bod dim rhaid i fi golli cwsg am y dyfodol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd17 Mawrth 2020