Merched beichiog yn 'cael eu gyrru adref ar dâl salwch'

  • Cyhoeddwyd
Dynes feichiogFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Llywodraeth y DU bod gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd yn "hollol annerbyniol"

Mae Aelod Seneddol o Gymru yn honni bod nifer o ferched beichiog wedi cael eu gyrru adref ar dâl salwch neu heb unrhyw dâl o gwbl yn ystod yr argyfwng.

Dywedodd AS Gŵyr, Tonia Antoniazzi ei bod yn delio ag achosion o'i hetholaeth ble mae cyflogwyr wedi torri'r gyfraith.

Mae hi'n dweud bod achosion yn cynnwys gweithwyr iechyd a gofal.

Dywedodd byrddau iechyd Cymru bod staff yn derbyn tâl llawn os ydyn nhw'n cael eu cynghori na ddylen nhw ddod i'r gwaith.

Mae ymgyrchwyr wedi galw ar y llywodraeth i gyflwyno mwy o ganllawiau i gyflogwyr sydd â staff sy'n feichiog.

Dywedodd Llywodraeth y DU ei fod yn monitro'r sefyllfa yn agos, a bod unrhyw wahaniaethu ar sail beichiogrwydd yn "hollol annerbyniol".

'Mae tâl salwch i bobl sy'n sâl'

Mae Gemma (nid ei henw iawn) yn feichiog ers 16 wythnos ac yn gweithio mewn cartref gofal yn Wrecsam.

"Mae fy mydwraig wedi dweud wrthai bod aros adref yn gall," meddai.

"Mae fy mos wedi bod yn gefnogol am fy mhenderfyniad i aros adref, ond mae hynny heb dâl.

"Fe wnes i ofyn am gael fy rhoi ar y cynllun saib o'r gwaith ond dywedodd fy nghyflogwr nad ydyn nhw'n rhoi unrhyw un ar y cynllun."

Cafodd Gemma ei chynghori gan ei chyflogwr bod modd iddi gael tâl salwch pe bai'n ffonio ei meddyg.

"Dydw i ddim yn meddwl bod hynny'n iawn - mae tâl salwch i bobl sâl. Os dydych chi ddim yn sâl dylech chi ddim derbyn tâl salwch," meddai.

Beth yw'r gyfraith?

Mae cyfraith iechyd a diogelwch yn dweud os oes unrhyw berygl i ddynes feichiog yn ei gweithle, mae'n rhaid i'w chyflogwr newid amgylchiadau ei gwaith, cynnig gwaith gwahanol iddi, neu os dyw hynny ddim yn bosib, ei gyrru adref ar dâl llawn.

Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y gallai merched beichiog fod mewn mwy o berygl pe byddan nhw'n cael Covid-19, ac mae pob dynes feichiog wedi derbyn llythyr gan y gwasanaeth iechyd yn eu cynghori i hunan ynysu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Joeli Brearley eisiau mwy o ganllawiau i gyflogwyr am beth i'w wneud

Dywedodd Joeli Brearley, sefydlydd Pregnant Then Screwed, sy'n darparu cyngor i ferched sy'n profi gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd, eu bod wedi cael nifer o adroddiadau o gwmnïau'n torri'r gyfraith.

"Ry'n ni'n clywed gan lawer o ferched beichiog sy'n cael eu gyrru gartref heb unrhyw dâl, mae eraill yn cael gorchymyn i gymryd eu hamser gwyliau, ac eraill yn gorfod cymryd eu cyfnod mamolaeth yn gynnar," meddai.

"Ac yna ry'n ni'n clywed gan nifer fawr o ferched sydd wedi cael eu gyrru gartref ar dâl salwch pan dydyn nhw ddim yn sâl - mae hynny'n anghyfreithlon.

"Maen nhw hefyd yn ei chael hi'n anodd iawn yn ariannol - symiau bach iawn o arian ydy hynny."

Ychwanegodd Ms Brearley bod y sefydliad hefyd yn clywed hefyd gan ferched beichiog sy'n dweud eu bod yn gorfod parhau i weithio mewn amgylchiadau anaddas.

'Dim syniad'

Dywedodd bod angen i'r llywodraeth ddarparu mwy o ganllawiau i gyflogwyr merched beichiog.

"Y rheswm mae'n digwydd ydy am fod hyn i gyd mor newydd, a dydy'r llywodraeth heb ddarparu cyngor penodol i gyflogwyr," meddai Ms Brearley.

"Felly does ganddyn nhw ddim syniad sut maen nhw i fod i weithredu."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU bod "gwahaniaethu ar sail beichiogrwydd yn hollol annerbyniol ac mae'n gyfraith yn parhau fel yr oedd".

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tonia Antoniazzi bod "rhaid i ferched wybod eu hawliau"

Dywedodd AS Llafur yng Ngŵyr, Ms Antoniazzi, fod y mwyafrif o'r cwynion mae hi wedi'u derbyn gan weithwyr iechyd a gofal.

"Mae'n rhaid i ferched wybod eu hawliau," meddai.

"Efallai nad ydych chi'n teimlo eich bod eisiau cael y drafodaeth honno gyda'ch cyflogwyr, ond mae mor bwysig bod y sgyrsiau hynny'n digwydd.

"Mae angen i gyflogwyr wybod beth yw'r sefyllfa a cheisio cael cyngor fel eu bod yn gallu gofalu am eu staff beichiog."