Cwestiwn ac ateb: Beth fydd y newidiadau nesaf i'r cyfyngiadau?

  • Cyhoeddwyd
Parc Bryn Bach, TredegarFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pobl yn cael ymarfer corff tu allan fwy nag unwaith y dydd ers 11 Mai

  • Cafodd y wybodaeth yma ei ddiweddaru fore Gwener, 29 Mai

Mae disgwyl i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wneud cyhoeddiad pellach ddydd Gwener ar y camau nesaf i'r cyfyngiadau.

Mae'r rheolau eisoes wedi cael eu llacio'n fwy fyth yn Lloegr, ac fe gyhoeddodd Yr Alban y byddai'r cyfyngiadau yno yn cael eu llacio ymhellach ddydd Gwener.

Mae Mr Drakeford wedi ei gwneud yn glir i bobl y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd ei llwybr ei hun allan o gloi "gan roi iechyd pobl yn gyntaf".

Nid yw Llywodraeth Cymru yn ystyried gosod cyfyngiadau lleol mewn gwahanol ardaloedd o'r wlad, gan fod angen cynnal "neges eglur" am coronafeirws.

Felly beth fydd y newidiadau nesaf i'r cyfyngiadau yma yng Nghymru?

Gyda disgwyl i'r tywydd cynnes bara i mewn i'r wythnos nesaf, mae'n bosib y bydd rhai yn edrych i weld a fyddan nhw'n cael gyrru i draethau a mannau harddwch.

Gall pobl yn Lloegr wneud hyn yn barod, yn ogystal â chwrdd ag un person y tu allan i'w cartrefi yn yr awyr agored - rhywbeth fydd yn cael digwydd yn Yr Alban hefyd o ddydd Gwener.

Ond fe daflodd y llywodraeth yma ddŵr oer ar y syniad yn gynharach yn yr wythnos.

Fe ddywedodd gweinidog iechyd Cymru, Vaughan Gething: "Fe welsoch chi, wrth gwrs y lluniau dros y penwythnos o draethau yn Lloegr a oedd dan eu sang a thraethau yng Nghymru lle mae pobl yn dilyn y rheolau, ac yn deall pwysigrwydd gwneud hynny i gadw ni oll yn ddiogel yma yng Nghymru."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ar y traeth yn Margate, Caint ar 26 Mai

Mae llawer o berchnogion busnes hefyd yn aros i gael gwybod pryf fydd modd ailagor siopau sydd ddim yn hanfodol. Cyhoeddwyd y byddan nhw'n gwneud hynny yn Lloegr erbyn 15 Mehefin.

Ar y cyfan, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n cael ei harwain gan ei system "goleuadau traffig", ond nid oes unrhyw ddyddiadau penodol gyda hynny eto.

"Byddwn yn parhau i wneud penderfyniadau, sy'n iawn i Gymru ar yr adeg iawn, gan ddefnyddio gwybodaeth a chyngor arbenigol ynglŷn â sut mae coronafeirws yn cylchredeg yma i'n cadw ni i gyd yn ddiogel," meddai llefarydd.

Faint o ymarfer corff ydw i'n cael gwneud?

Mae gennych chi'r hawl i fynd allan fwy nag unwaith y dydd, ond mae'r llywodraeth wedi dweud bod rhaid "aros yn lleol".

"Dylai unrhyw ymarfer corff ddechrau a gorffen yn eich cartref, ac ni ddylech chi fynd pellter sylweddol o adref," meddai Mr Drakeford.

Mewn amodau arbennig, fel person sydd mewn cadair olwyn, mae caniatâd i yrru i'r lle addas agosaf i ymarfer corff.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Does dim hawl cael picnic neu dorheulo tra rydych chi allan yn ymarfer corff

Ydw i'n cael ymarfer corff gyda ffrind?

Dylech chi fod ar eich pen eich hun neu gyda phobl sy'n byw gyda chi, neu ofalwr os ydy hynny'n angenrheidiol.

Mae'r cyhoedd yn cael eu hannog i gerdded, rhedeg neu seiclo yn unig.

Pa mor bell ydw i'n cael seiclo?

Dydy seiclwyr ddim yn cael teithio ymhellach na "phellter cerdded rhesymol o'u cartref".

Dylai pobl seiclo ar eu pen eu hunain, neu gyda phobl sy'n byw yn yr un cartref.

Ydw i'n cael aros allan tra'n ymarfer corff?

Does dim hawl cael picnic, torheulo neu ymlacio ar feinciau am gyfnod hir tra rydych chi allan yn ymarfer corff.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae canolfannau garddio wedi cael ailagor os oes modd cadw at y rheolau ymbellhau cymdeithasol

Ydy canolfannau garddio yn ailagor?

Mae canolfannau garddio wedi ailagor yng Nghymru ers 11 Mai, ac mae pob yn cael eu hannog i ddilyn y rheolau am gadw dau fetr o'i gilydd yno.

Fydd fy nghanolfan ailgylchu ar agor?

Dyw hynny ddim yn glir. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi caniatâd i gynghorau ailagor canolfannau, ond penderfyniad i gynghorau unigol fydd pryd i wneud hynny.

Pryd fydd plant yn dychwelyd i'r ysgol?

Does dim dyddiad wedi'i osod ar gyfer hynny, ond mae'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams wedi cadarnhau na fydd ysgolion yn ailagor ar 1 Mehefin.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y bydd o leiaf tair wythnos o rybudd cyn ailagor ysgolion er mwyn rhoi amser i baratoi.

Mae Mr Drakeford wedi dweud bod cynlluniau Lloegr i ailagor ysgolion erbyn 1 Mehefin yn "disgyn i ddarnau".

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Does dim dyddiad eto ar gyfer ailagor ysgolion yng Nghymru

Pryd fyddai'n cael mynd i weld fy nheulu a ffrindiau?

Rhaid disgwyl nes y cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

Ar hyn o bryd maen nhw'n ofni y byddai llacio'r cyfyngiadau'n ormodol yn arwain at fwy o farwolaethau y mae modd eu hosgoi.

Dywedodd Mr Drakeford y byddai cynnydd bychan yng nghyfradd trosglwyddo Covid-19 yn golygu miloedd yn fwy mewn ysbytai a "nifer fawr" o farwolaethau ychwanegol.

Beth os ydw i'n feichiog neu dros 70 oed?

Os ydych chi dros 70 oed, yn feichiog neu yn y categori bregus rydych chi'n cael eich annog i aros adref a "chymryd gofal i amddiffyn eich hun" am o leiaf 12 wythnos.

Ydw i'n cael mynd i fy ail gartref?

Dydy perchnogion ail gartrefi ddim yn cael symud o'u prif gartref.

Rhybuddiodd Mr Drakeford hefyd y byddai unrhyw un sy'n teithio i draethau neu barciau cenedlaethol yn cael eu stopio gan yr heddlu.