Llifogydd yn taro rhannau o'r de yn dilyn stormydd

  • Cyhoeddwyd
GorseinonFfynhonnell y llun, Joe Clayfield
Disgrifiad o’r llun,

Yr olygfa ar Heol Brynhyfryd yng Ngorseinon brynhawn Sadwrn

Mae cartrefi wedi cael eu heffeithio gan lifogydd ar ôl i stormydd daro rhannau o dde a gorllewin Cymru ddydd Sadwrn.

Cafodd pedwar adeilad eu difrodi yng Nghaerfyrddin, tra bod criwiau'r gwasanaeth tân ac achub hefyd wedi'u galw i ardal Gorseinon yn Abertawe.

Dywedodd trigolion yng Ngorseinon eu bod wedi synnu pa mor gyflym aeth y ffyrdd dan ddŵr.

Yn ôl y rhagolygon tywydd, dydd Sadwrn ydy'r diwrnod twym olaf am gyfnod, gyda'r tywydd wedi cyrraedd 25C yng Nghaerdydd a 20C yng Nghaernarfon, gan arwain at stormydd mewn rhai mannau.