Cic drwy ffenest to tŷ yng Ngheredigion yn denu sylw Sky
- Cyhoeddwyd
Mae menyw o Geredigion wnaeth gicio pêl drwy do ei thŷ bellach yn rhan o hysbyseb teledu gorsaf Sky Sports.
"Fi wedi gorfod arwyddo cytundeb a phob math o bethau," meddai Mair Nutting o Dal-y-bont.
"Dechrau'r lockdown o'dd hi. Dwi, Garmon y mab a'r gŵr nawr yn gweithio o gatre', ac un diwrnod dyma Garmon yn rhoi her i fi gicio pêl drwy ffenest to'r tŷ fel rhan o'r Home Top Bin Challenge."
Nod yr her, sydd wedi dod yn boblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol, yw cicio pêl-droed i le bach.
Peter Crouch yn ymateb
"Ro'dd Garmon eisoes wedi cwblhau'r gamp," ychwanegodd Mair, sy'n gweithio i UCAC.
"Ond mae fe'n chwarae pêl-droed i Bow Street a'r dasg nawr oedd cael mam, sy'n ei phumdegau hwyr, i 'neud yr un peth!
"Bore dydd Sul o'dd hi a fues i'n ymarfer drwy'r bore - 'nes i siŵr o fod drio tua 30 o weithiau ond a'th y bêl ddim mewn o gwbl, ac yn y p'nawn dyma Garmon yn dechrau ffilmio ac a'th hi mewn y trydydd gwaith.
"I gario mlaen â'r sioe dyma fi'n trio dathlu fel mae [cyn bêl-droediwr Lloegr] Peter Crouch yn 'neud - a wedyn dyma Garmon yn tago fe mewn ar y cyfryngau cymdeithasol, a chyn pen dim o'dd Peter Crouch ei hun wedi ymateb!"
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae'r fideo o'r gic anfarwol wedi cael ei weld dros 154,000 o weithiau ac yn fuan wedi'r gamp fe wnaeth gorsaf deledu Sky Sports gysylltu â Mair Nutting i gael caniatâd i ddangos y gic.
"Fi wedi gweld yr hysbyseb a fi'n chwerthin bob tro," meddai Mair Nutting wrth Cymru Fyw.
"Mae 'na eraill wedi'i gweld hefyd a wi'n siŵr bo' nhw yn eu dyblau - fi ddim yn berson sporty a does dim lot o ddiddordeb 'da fi yn chwaraeon.
"I 'weud y gwir dyma'r llwyddiant gorau dwi wedi'i gael erioed.
"Yr unig dîm dwi'n ffan ohonynt yw tîm Bow Street - fi wedi bod yn eu gweld nhw sawl gwaith."
Codi arian at elusen
Ar hyn o bryd mae chwaraewyr a swyddogion Clwb Pêl-droed Bow Street yn ceisio seiclo, rhedeg neu gerdded pellter sy'n cyfateb i gylchedd y ddaear - 24,860 milltir - mewn 70 diwrnod, a hynny yn unol â chanllawiau ymarfer corff y llywodraeth.
Y bwriad yw rhagori ar ymdrechion Phileas Fogg yn Around the World in Eighty Days, ac ymdrech debyg gan seren Monty Python, Michael Palin.
Ond y prif nod yw codi arian fydd yn sicrhau parhad y clwb a chefnogi dwy elusen leol, sef Apêl Covid-19 GIG Hywel Dda a HAHAV - Gwirfoddolwyr Hosbis yn y Cartref Aberystwyth.
"Dwi'n trio cerdded bach bob dydd at hyn - dim lot cofiwch, rhyw filltir neu ddwy i helpu'r achos," meddai Mair Nutting.
"Ydw, dwi wedi rhoi'r gorau nawr i gicio'r bêl - gorffen ar y top, fel pob pêl-droediwr da."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mai 2020
- Cyhoeddwyd9 Mai 2020
- Cyhoeddwyd19 Ebrill 2020