'Tybed fydd Dad yn 'nabod fi tro nesa?'
- Cyhoeddwyd
"Ro'dd gadael dad yng nghartref Hafan y Waun y tro diwethaf yn amser bach pryderus - o'n i ddim yn gallu dweud ffarwel - roedd yn rhaid i fi gerdded mas, eistedd yn y car a meddwl pryd fydden i'n gallu mynd nôl i weld e 'to," medd Alison Morgans o Aberystwyth.
Dyna brofiad nifer wedi i'r cyfyngiadau yn sgil haint coronafeirws ddod i rym ddiwedd mis Mawrth.
Mae cartref Hafan y Waun yn Aberystwyth, sy'n eiddo i enwad y Methodistiaid, yn gofalu am dros 90 o bobl - y mwyafrif ohonyn nhw yn byw gyda dementia.
Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg dywedodd Alison Morgans ei bod yn hynod o falch bod ei thad, Dai Davies, yn cael gofal da a'i fod yn hapus.
Er hynny ag yntau yn byw gyda dementia mae'n poeni na fydd e'n ei hadnabod hi y tro nesaf y bydd y ddau'n cyfarfod.
"Be sy'n gofidio fi mwy nawr," meddai, "yw beth fydd yn digwydd nesaf.
'Fydd e'n nabod fi?'
"Fydd e wedi anghofio pwy ydw i? Ro'n i'n arfer mynd ato fe am ryw awr, bump neu chwech gwaith yr wythnos a weithiau fydden i'n gorfod ei atgoffa pwy o'n i.
"Dyw e ddim yn gwybod be sy'n digwydd. Mae e'n hapus yn ei fyd ei hunan a dyna sy'n cadw fi fynd ar hyn o bryd ond ma' sbel nawr ers i fi weld e a thybed fydd e'n 'nabod fi tro nesaf?"
Mae'n canmol staff y cartref yn fawr a'u hymdrechion i gadw mewn cysylltiad ond dywed ei bod yn ysu am i'r cyfnod ddod i ben yn fuan.
"Fel person busnes rwy' wrth gwrs," ychwanegodd, "am i'r cyfnod ddod i ben yn gloi ond yn fwy na hynny mae'r amser sy' 'da fi ar ôl gyda Dad yn fyr a fi'n gobeithio gwneud yn fawr ohono fe a bod yna gydag e hyd y diwedd.
"Nes i fynd ag ŵy pasg iddo fe Gwener y Groglith a 'nes i weld e drwy'r ffenest adeg hynny - o'dd e'n brofiad neis, o'dd e'n gwenu ac i weld yn hapus.
"Mae staff y cartref wedi bod yn wych - ac fel mae un fideo diweddar ar facebook Côr-ona yn dangos maent wedi bod yn diddanu y preswylwyr drwy ganu yn ddiddiwedd - mae dad yn joio canu.
"Fe 'nath y fideo 'na o dad yn canu gyda Julie fy llonni'n fawr ac fe rannais i fe ar y cyfryngau cymdeithasol."
'Ni yw eu teulu nhw nawr'
Dywedodd Julie Thomas, sy'n un o reolwyr gofal cartref Hafan y Waun, bod y staff bellach yn deulu i'r preswylwyr.
"Ni gyd fel teulu bach a ma' nhw'n edrych arnon ni fel eu teulu nhw ar hyn o bryd," meddai.
"Ni byth yn rhoi'r newyddion mla'n - dydyn ni ddim eisiau iddyn nhw glywed gormod am be sy'n mynd mla'n.
"Mae'r rhan fwyaf yn eu byd eu hunain ond wrth 'neud facetime 'da nhw dyw rhai ohonyn nhw ddim yn deall pam eu bod methu gweld eu teulu go iawn."
Cyfnod emosiynol
O ran cyfarpar i'w hamddiffyn rhag Covid-19 dywed Julie Thomas bod y deunydd ganddyn nhw yn y cartref ond nad oes angen ei ddefnyddio eto gan nad yw'r haint wedi taro'r cartref.
Er yr hapusrwydd yn y cartref a diffyg ymwybyddiaeth yn aml o'r hyn sy'n digwydd ychwanega Julie ei bod yn gallu bod yn gyfnod emosiynol iawn ar adegau.
"Mae rhai yn llefen ambell waith yn y nos - mae hwnna'n emosiynol iawn.
"Fi wedi bod yn cysuro lot yn y nos - be sy'n gweithio fel arfer yw canu gyda nhw ac yn aml fe fyddai'n canu emynau am bedwar o'r gloch y bore.
Lles y preswylwyr sy'n bwysig
"Yn aml byddwn fel staff yn dod â phobl i'r stafell fyw ganol nos - ac mae siocled a phaned o de yn sorto popeth mas.
"Ydi'n mae'n emosiynol iawn - mae nhw'n llefen, ni'n llefen gyda nhw - mae'n amser anodd iawn.
"Ar ddiwedd y dydd yr hyn sy'n bwysig yw bod y preswylwyr yma yn hapus - 'nai gyd sy'n bwysig i fi, ie dim ond bo nhw'n hapus."
Ychwanegodd Alison Morgans ei fod, er gwaetha'r amgylchiadau, yn hynod falch o'r gofal y mae ei thad yn ei gael.
"Ydi mae Dad yn hapus yn ei fyd bach ei hunan - ond tybed fydd e'n 'nabod fi tro nesa?"
Mae modd gwrando yn llawn ar brofiadau Alison Morgans a Julie Thomas ar Bwrw Golwg ar Radio Cymru, ddydd Sul am 12:30.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd18 Mawrth 2020