CPD Y Rhyl 1879 i chwarae ar faes y Belle Vue y tymor nesaf
- Cyhoeddwyd
Bydd Clwb Pêl Droed Y Rhyl 1879, ffurfiwyd wedi i'r hen glwb ddod i ben, yn chwarae ar faes y Belle Vue y tymor nesaf.
Mae'r clwb newydd wedi dod i gytundeb gyda pherchennog y Belle Vue, fu'n gartref i'r hen glwb ers 1892.
Yn ogystal mae gan y clwb newydd opsiwn i brynu'r maes.
Roedd yr hen glwb wedi dod i ben yn sgil problemau ariannol ac wedi cymryd y "penderfyniad anodd" ar ôl ystyried goblygiadau ariannol gwahardd pêl-droed o ganlyniad i'r argyfwng coronafeirws.
Roedd y clwb wedi datgan ym mis Ebrill bod angen £175,000 arnyn nhw er mwyn parhau ac er i sawl buddsoddwr ddangos diddordeb ni chafodd unrhyw gynnig ariannol gwirioneddol ei gyflwyno.
'Prif flaenoriaeth'
Sefydlwyd clwb newydd yn ei le gyda'r enw CPD Y Rhyl 1879 yn cael ei gyhoeddi yn ddiweddar.
"Y brif flaenoriaeth i'r clwb newydd a'r tîm arweinyddiaeth oedd sicrhau stadiwm Belle Vue ar gyfer dyfodol pêl-droed yn Y Rhyl," meddai'r clwb mewn datganiad.
Gyda phwyllgor rheoli mewn lle, y cam nesaf fydd hysbysebu ar gyfer rheolwr tîm cyntaf.
"Dyma gyfle gwych i fod yn rheolwr cyntaf ein clwb newydd ac i ymuno gyda ni wrth i ni geisio parhau gyda thraddodiad pêl-droed Y Rhyl drwy ddod â llwyddiant ar y maes yn ôl i'r Belle Vue," meddai rheolwr gyfarwyddwr y clwb, Adam Roche.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020