Cyngor Aberatwe yn 'parhau'n hyderus' dros ail ddatblygiad canol dinas

  • Cyhoeddwyd
Delwedd o gynlluniau dyfodol AbertaweFfynhonnell y llun, Swansea Council

Mae arweinydd Cyngor Abertawe yn "parhau yn hyderus" am ddyfodol ailddatblygiad £135m canol y ddinas, er gwaethaf argyfwng coronafeirws.

O dan y cynlluniau, bydd 11,000 o bobl yn gweithio ac yn byw yn yr ardal a'r gobaith yw dod â rhagor i fyw yng nghanol y ddinas ei hun.

Mae'r prosiect yn cynnwys arena ddigidol, fydd â lle i 3,500 o bobl, uwchben maes parcio a gwesty, siopau, pont newydd dros Ffordd Ystumllwynarth, swyddfeydd a chartrefi.

Ond gyda'r tebygolrwydd y bydd rhyw fath o gyfyngiadau ar deithio yn parhau am dipyn o amser, gall y diffyg lle sydd yng nghanol dinasoedd fod yn anneniadol i nifer.

Er hynny mae arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart, yn "bositif iawn am y dyfodol".

Mae'r awdurdod bron wedi cwblhau ailddatblygiad Ffordd y Brenin, ac mae tŵr enfawr gyda lle i bron i 800 o fyfyrwyr yn cael ei adeiladu ger yr orsaf drenau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl y bydd yr arena, fydd â lle i 3,500 o bobl, yn cael ei gwblhau yn haf 2021

Mae gwaith ar yr arena wedi parhau yn ystod y misoedd diwethaf, ac mae'r contractwyr yn hyderus y bydd y prosiect wedi ei gwblhau erbyn haf y flwyddyn nesaf.

"Rwy'n gobeithio y bydd wedi ei gwblhau erbyn i ni ddod mas o'r cyfyngiadau ac fe fydd pobl yn gallu parhau â'u bywydau gyda rhyw fath o normalrwydd," meddai'r Cynghorydd Stewart.

"Mae dinasoedd yn mynd i barhau i fod yn rhan annatod o'r economi trwy gydol y DU.

"Edrychwch ar Loegr ar hyn o bryd, dydw i ddim yn cytuno y dylai'r cyfyngiadau wedi cael eu codi mor gyflym yna, ond rydych chi'n gallu gweld cyn gynted y cafodd cyfyngiadau eu codi, fe aeth bobl yn syth yn ôl i draethau a dinasoedd.

"Dwi'n parhau'n bositif... rydyn ni'n adeiladu ar gyfer llwyddiant economi Abertawe a'r ardal yn yr hir dymor, a does dim rheswm i newid y cynllun hynny."

Ymateb i effeithiau'r pandemig

Bydd rhaid i ddinasoedd ymateb i effeithiau'r pandemig, ac mae nifer ar draws y byd wedi dechrau yn barod.

Mae Athen yn lledaenu palmentydd yn barod, tra bod gwleidyddion ym Mharis a Melbourne yn awyddus i sicrhau bod siopau, hamdden a gwaith ar gael o fewn ugain munud o gartrefi dinasyddion.

Ac yn ôl un academydd blaenllaw o Brifysgol Caerdydd, mae yna "gyfle" i sicrhau y bydd ailddatblygiad Abertawe yn gynaliadwy yn amgylcheddol.

"Ar wahân i argyfwng Covid, mae angen i ragor o'n gweithgareddau, ein swyddi ac ein siopau i gael eu lleoli o gwmpas canolfannau trafnidiaeth," meddai'r Athro Mark Barry, sy'n rhan o adran daearyddiaeth Prifysgol Caerdydd.

"Ac mae angen lleihau y tueddiad yr ydyn ni wedi cael dros y 30 mlynedd diwethaf o roi pethau o gwmpas cyffyrdd y draffordd, mae'n niweidiol iawn yn amgylcheddol.

"Mae'r DVLA yn enghraifft arbennig. 5,000 o weithwyr, does neb yn cymryd trafnidiaeth cyhoeddus yno, maen nhw i gyd yn gyrru ac wrth reswm wedyn mae'r M4 yn llawn dop o ganlyniad i hynny."

Disgrifiad o’r llun,

"Mae rhaid ystyried sut y bydd dinasoedd yn ymdopi yn sgil Covid-19, meddai'r Dr Chris Muellerleile

Mae Dr Chris Muellerleile, sy'n ddaearyddwr trefol o Brifysgol Abertawe, yn cytuno y bydd dinasoedd yn parhau i ffynnu.

"Mae dinasoedd wedi newid dros y 200 mlynedd diwethaf, yn aml o ganlyniad i argyfyngau gwahanol, " meddai.

"Mae rhaid ystyried sut y bydd dinasoedd yn ymdopi yn sgil Covid-19. Pa fath o arloesedd fydd yn digwydd yn ein dinasoedd i'w trawsnewid i mewn i ganolfannau newydd o lewyrch?

"Mae nifer yn meddwl y bydd yr awydd i fyw mewn dinasoedd yn parhau, a rwy'n dueddol o gredu - er bod yna risgiau yn y tymor byr a hyd yn oed tymor canolig - fe fydd dinasoedd yn goroesi ac wedyn ffynnu yn y tymor hir."