Coronafeirws: Dim 'botox' na 'fillers' yn deimlad 'afiach'

  • Cyhoeddwyd
Iwan SteffanFfynhonnell y llun, Iwan Steffan
Disgrifiad o’r llun,

Mae methu cael ei fillers arferol yn deimlad "afiach" i Iwan Steffan

Mae pobl sydd fel arfer yn cael triniaethau harddwch fel 'botox' a 'fillers' yn dweud eu bod yn dioddef yn feddyliol gan nad oes modd cael y triniaethau ar hyn o bryd.

Mae Iwan Steffan, 30, yn byw yn Lerpwl ac wedi bod yn cael botox a llenwadau, neu fillers,ers ei fod yn 25 oed.

"Ers hwnna, dwi 'di bod yn 'neud o bob tri mis. I fi mae o am deimlo'n dda ac mae teimlo'n dda yn rhywbeth essential i fi," meddai Iwan.

"Mae methu cael y triniaethau yma wedi cael effeithiau negyddol ar fy meddwl i a lot o bobl hefyd."

Yn wreiddiol o Riwlas ger Bangor, mae Iwan yn dweud ei fod wedi gweld eisiau torri ei wallt a'r triniaethau harddwch yn ofnadwy ers dechrau'r cyfnod clo.

Disgrifiad,

Mae Iwan Steffan yn dweud bod y triniaethau'n ei wneud yn hapus

"Dwi heb gael fillers ers mis Mawrth, dwi heb gael dim byd a dwi'n teimlo'n afiach.

"Dwi methu mynd am dro hefo fy ffrindiau, os dwi'n mynd i'r siop dwi'n gwisgo sbectol haul a dwi'n gwisgo het ar fy mhen."

'Anodd edrych yn y drych'

Nid Iwan yw'r unig un sy'n teimlo pryder am y sefyllfa. Mae Sara James, 33 o Gaerdydd, hefyd yn cael triniaethau harddwch yn aml.

Ffynhonnell y llun, Sara James
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Sara gael 'botox' ar ôl dod yn fam

Dywedodd Sara: "Yn 27 oed ges i fy mhlentyn cyntaf, felly mae'r corff a phopeth yn dechrau mynd wedyn a diffyg cwsg. Felly wedi 'ny nes i ddechrau cael botox.

"Pryd chi 'di dod i'r arfer ag edrych rhyw ffordd, mae fe'n really anodd edrych yn y drych a gweld bo' chi ddim yn edrych fel hynny.

"Fi'n eithaf ffodus ges i botox fi tua mis Mawrth, ond pryd bydd hwnna bendant yn rhedeg mas, oh my gosh, fi'n siŵr byddai really yn dechrau casáu fy hun wedi 'ny.

"Gall lot o bobl fynd lawr slope nawr oherwydd methu cael y triniaethau."

Ffynhonnell y llun, Llun Cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Fel cymdeithasegydd, mae Dr Sara Wheeler yn cydymdeimlo'n fawr â phobl sy'n gweld eisiau eu triniaethau harddwch

Yn ôl Dr Sara Louise Wheeler, cymdeithasegydd ym Mhrifysgol Glyndŵr, mae'r ffaith bod triniaethau wedi'u hatal ar hyn o bryd yn siŵr o achosi pryder i nifer.

"Fedra i ddim dychmygu sut fyddai'n teimlo, os oes gennych chi fillers, ond 'dach chi ddim yn gallu cael nhw," meddai.

"A does 'na ddim sicrwydd o bryd allech chi gael nhw. Mae gen i lot o sympathy am hwnna.

"Fel mae'r cymdeithasegydd Michael Bury yn dweud yn ei gysyniad enwog 'Y rhwyg bywgraffyddol,' ni gyd yn gweld ein bywydau ni fel nofel, gyda naratif, a'r dyfodol 'dan ni'n disgwyl cael.

"Ac wedyn os mae rhywbeth yn digwydd wedyn mae'n tarfu ar hynna, a 'dan ni methu gwneud beth 'dan ni'n meddwl 'dan ni angen gwneud er mwyn jyst parhau, mae'n stopio ni, mae'n tarfu arnom ni, ac mae hynna'n anodd.

"Ac mae hyn yn esbonio tipyn bach sut mae pobl yn teimlo, achos fedran nhw ddim bod yn nhw, fedran nhw ddim neud selfie a bod ar Instagram a phethau felly, pethau maen nhw'n 'neud yn ddyddiol, oherwydd bo' nhw'n teimlo bo' nhw ddim yn edrych fel nhw."

Pryder am driniaethau adref

Mae Carolyn Harris, AS Abertawe a chyd-gadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol Seneddol ar Harddwch, Esthetig a Lles, hefyd wedi siarad am y sefyllfa.

"Mae'r diwydiant harddwch yn chwarae rôl hollbwysig yn ein bywydau - dyw e ddim am edrych yn dda yn unig - mae gallu cael ein triniaethau harddwch neu wallt yn bwysig i'n hiechyd meddwl a'n lles cymdeithasol," meddai.

"Er hyn, rydw i'n poeni'n fawr am adroddiadau bod pobl dal i fynd am driniaethau neu'n eu gwneud nhw ei hun yn ystod y cyfyngiadau cymdeithasol.

"Tra bod pawb yn edrych ymlaen i'r dydd pan fydd y diwydiant yn gallu ailagor, mae'n hollbwysig nad yw aelodau'r cyhoedd yn cymryd risg o gael triniaethau yn anniogel neu trwy brynu offer ar-lein i gwneud nhw adref."

Ychwanegodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein rheoliadau yn ei gwneud yn ofynnol i siopau trin gwallt, siopau harddwch a thrin ewinedd, siopau lliw haul, a pharlyrau tyllu'r corff a thatŵ aros ar gau.

"Mae hyn i helpu i leihau lledaeniad y coronafeirws ac i achub bywydau.

"Os caiff y rheoliadau eu torri gallai'r rhai sy'n cynnig gwasanaethau o'r fath yn anghyfreithlon, a'r rhai sy'n eu derbyn, dderbyn dirwy."

Er gwaetha'r pryder mae rhai pobl yn ei deimlo, dyw pawb ddim yn dioddef yr un fath.

Ffynhonnell y llun, Mared Parry
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Mared Parry mae'r diffyg gwario yn gwneud lles i'w chyfrif banc

Mae Mared Parry o Flaenau Ffestiniog yn 23 oed ac yn byw yn Llundain ar hyn o bryd. Mae hi wedi dod i arfer â methu cael ei thriniaethau arferol.

Dros y ddwy flynedd a hanner diwethaf mae Mared wedi cael triniaeth ar ei gwefusau dair gwaith, ei gên ddwywaith, y croen dan ei llygaid deirgwaith, ei bochau ddwywaith a botox yn ei thalcen.

'Neis cael brêc'

Er hyn, dywedodd Mared: "I fod yn onest mae'n neis cael brêc. 'Di o'm yn rili 'neud gwahaniaeth. Mae dal yn fy nghroen i.

"'Di o ddim fatha bod o'n cyrraedd blwyddyn a bod nhw'n disappeario. Mae'r effaith jyst yn dechra' weario off.

"Mae'n neis cael brêc i bank account fi, dwi'm yn obviously cael nails fi wedi 'neud, gwallt fi 'di 'neud, ma' pob dim yn cael brêc ac mae'n ideal really."