Gorchuddio wynebau: 'Dim rhuthr i wneud penderfyniad'
- Cyhoeddwyd

Teithiwr mewn masg yng ngorsaf reilffordd Caerdydd Canolog
Mae Prif Weinidog Cymru'n dweud na fydd Llywodraeth Cymru'n "rhuthro i wneud penderfyniad" ynghylch gorfodi pobl i orchuddio'u hwynebau ar drafnidiaeth gyhoeddus.
Bydd yn rhaid gwneud hynny yn Lloegr o 15 Mehefin, ond safbwynt Llywodraeth Cymru yw ei fod yn "fater o ddewis personol".
Dywedodd Mark Drakeford ei fod yn cydnabod mai "ychydig ddyddiau" sydd gan Lywodraeth Cymru i drafod y mater cyn y bydd angen dod i benderfyniad.
"Byddwn yn parhau i drafod dros y penwythnos a gwneud datganiad pendant ddechrau'r wythnos nesaf," meddai.
Ychwanegodd bod angen ystyried effaith gorchuddio wynebau ar grwpiau gwahanol, fel pobl ddall, pobl ag asthma, a phobl ar deithiau hir sydd angen bwyta ac yfed ar y daith.
'Gallu helpu achub bywydau'
Mae cangen Cymru o Gymdeithas Feddygol Prydain (BMA) yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid eu safbwynt, gan argymell i bobl orchuddio'u hwynebau mewn amgylchiadau ble nad oes modd cadw pellter cymdeithasol.
"Mae tystiolaeth yn dangos bod gorchuddio cegau a thrwynau mewn ardaloedd ble nad oes modd ymbellhau'n gymdeithasol, yn helpu i reoli lledaeniad Covid-19 ac achub bywydau," meddai cadeirydd cyngor BMA Cymru, Dr David Bailey.
Mae'r corff sy'n cynrychioli meddygon hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gorchuddion i'r cyhoedd a'u haddysgu am sut i'w defnyddio.
Mae Trafnidiaeth Cymru hefyd yn gofyn i'r cyhoedd "ystyried" gwisgo gorchudd wrth deithio ar fws neu drên.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn annog pobl i "ystyried" gwisgo gorchudd wrth deithio ar drên neu fws
Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig yn Senedd Cymru, yr AS Angela Burns, yn cefnogi'r alwad i ddilyn esiampl Lloegr, gan ddweud nad yw Llywodraeth Cymru'n "cymryd cyngor y meddygon o ddifrif".
"Mae gwisgo masgiau wyneb eisoes wedi ei gyflwyno ochor arall y ffin, ac mae'n ymddangos, yn anffodus, fod Llywodraeth Cymru unwaith yn rhagor yn dal i fyny gyda San Steffan," meddai.
"Rhaid cydnabod fod yna risg o hyd, hyd yn oed trwy wisgo gorchudd wyneb, ond mae'n hanfodol i ystyried pob trywydd i drechu Covid-19 unwaith ac am byth."


Oes 'mantais anochel?'
Yn Yr Alban, mae'r Prif Weinidog, Nicola Sturgeon wedi dweud y gallai gorchuddio'r wyneb ddod yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn siopau.
Dywedodd Mr Drakeford ddydd Gwener ei fod wedi trafod y mater gyda'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, a'r Prif Swyddog Meddygol, Dr Frank Atherton, a bod angen archwilio "cyfres o gwestiynau manwl... gyda'n cydweithwyr yn Lloegr".
Mae cynrychiolwyr pobl fyddar "sy'n dibynnu ar allu darllen gwefusau fel ffordd o ddeall y byd o'u cwmpas" wedi mynegi pryder, meddai.
Dywedodd fod mathau gwahanol o orchuddion yn llai effeithiol na'i gilydd, a dyna pam fod Dr Atherton wedi oedi cyn awgrymu fod "mantais anochel" i wisgo gorchudd.
"Dydw i ddim yn difaru dilyn cyngor y Prif Swyddog Meddygol," ychwanegodd. "Nid fy lle i yn ystod pandemig yw disodli ei farn ef gyda fy marn i, ond cyfleu'r cyngor gorau sydd ar gael i bobl Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd12 Mai 2020