Ben Davies: Barod 'i ddechrau'r tymor eto' gyda Tottenham
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai'r amddiffynnwr Ben Davies a gweddill carfan Cymru fod yn paratoi ar gyfer eu gêm agoriadol yn Euro 2020 yr wythnos hon.
Y Swistir ym mhrifddinas Azerbaijan, Baku, oedd y gêm honno ar ddydd Sadwrn, 13 Mehefin.
Ond mae argyfwng coronafeirws yn golygu bod y gystadleuaeth wedi ei gohirio ac yn hytrach mae Davies yn paratoi at gwblhau'r tymor gyda'i glwb Tottenham.
Daeth y tymor pêl-droed i ben yn ddisymwth ym mis Mawrth ond fe fydd Uwchgynghrair Lloegr yn ail ddechrau'r mis hwn y tu ôl i ddrysau caeedig.
'Ysu' i gael chwarae
"Mae hi wedi bod yn amser eithaf neis, i fod yn onest, i gael rest," meddai Davies ar bodlediad Elis James' Feast of Football.
"Nawr mae'r corff yn teimlo'n berffaith eto ac mae pawb yn barod ac yn gyffrous iawn i ddechrau eto.
"Ers tair wythnos dda ni wedi bod ar y cae, yn y dechrau ar ben ein hunan a nawr gyda'n gilydd, ac rydyn ni'n barod i fynd nawr."
Yn ystod y cyfnod clo fe gafodd Ben a'i gyd-chwaraewyr feic ymarfer yr un, a gafodd ei ddarparu gan y clwb, er mwyn iddyn nhw gadw'n heini.
Ac fel nifer fawr o bobl eraill, cafodd y feddalwedd fideo cynhadleddau 'Zoom' ei ddefnyddio er mwyn cadw mewn cysylltiad.
"Mae pawb yn gorfod setio'r laptop neu ffon lan mewn safle lle mae pawb yn gallu gweld," ychwanegodd y chwaraewr 27 mlwydd oed.
Roedd Davies yn aelod o garfan Cymru chwaraeodd yn rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc - gyda thîm Chris Coleman yn cyrraedd y rownd gynderfynol, cyn colli yn erbyn Portiwgal.
Ond mae'r pandemig wedi golygu y bu'n rhaid gohirio Euro 2020 am flwyddyn ac mae gan Ben Davies deimladau cymysg am hynny.
"Ro' ni'n barod fel carfan i fynd y tymor yma ond rwy'n credu os ydyn ni'n cael blwyddyn arall gyda'n gilydd, mae pawb yn gallu gweithio i fod yn barod," meddai.
"Dwi'n credu os gallwn ni ymarfer yn dda, cysylltu gyda'n gilydd, yna mae'n mynd i helpu ni i gyd.
Mewn undod mae nerth
"Dwi'n credu yn y pedair gêm olaf o'r qualifiers mi oedd y tîm wedi dod gyda'i gilydd - ni 'di ffeindio ffordd sut i chwarae, a thîm sydd yn gwybod beth i wneud.
"Wrth i ni baratoi at y gystadleuaeth roedd hwnna'n deimlad da.
"Ond os ydyn ni'n gorfod aros am flwyddyn arall, efallai bod siawns 'da ni gadw hwnna i fynd.
"Mae pawb yn credu ein bod ni'n dîm sydd yn gallu bod yn llwyddiannus iawn.
"Mae lot o chwaraewyr 'da gyda ni y tro yma ac os ydych chi'n edrych ar yr enwau yn y garfan, siŵr o fod bydd pawb yn dweud bod y tîm yma yn dîm gwell na'r tro diwethaf.
"Mae'n rhaid i ni ddangos hynna, rhaid i ni aros yn gadarn a brwydro i fod y tîm gorau 'da ni'n gallu bod."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd9 Mawrth 2017