'Dim achosion newydd o Covid-19' mewn rhai ardaloedd
- Cyhoeddwyd
Mae bron bob awdurdod lleol yng Nghymru yn adrodd niferoedd bychan o achosion positif o Covid-19 bellach, gyda dim achosion newydd mewn nifer, yn ôl pennaeth GIG Cymru.
Yn siarad yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru ddydd Iau dywedodd Dr Andrew Goodall: "Mae nifer yr achosion newydd wedi bod yn gostwng yn gyson ers Ebrill, er ein bod yn gwneud llawer mwy o brofion.
"Mae cyfradd y profion positif wedi gostwng i lai na 2%."
Ond cyfaddefodd prif weithredwr GIG Cymru bod rhai ardaloedd yn parhau i weld mwy o achosion newydd, fel rhai ardaloedd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
"Ar hyn o bryd mae nifer yr achosion dyddiol ar eu huchaf yng ngogledd Cymru," meddai Dr Goodall.
885 claf Covid-19 mewn ysbytai
Ers dechrau Mehefin mae llai na 10 o gleifion wedi marw ar ôl cael prawf positif pob dydd.
"Mae nifer y bobl sy'n marw o coronafeirws wedi bod yn gostwng ers dechrau Ebrill," meddai Dr Goodall wrth y gynhadledd.
LLIF BYW: Y newyddion diweddaraf ar 11 Mehefin
AMSERLEN: Llinell amser coronafeirws yng Nghymru
IECHYD MEDDWL: Claf cyntaf Cymru'n annog positifrwydd
Dywedodd Dr Goodhall bod 885 o gleifion coronaferws mewn ysbytai yng Nghymru, a bod hynny'n ostyngiad ar yr wythnos ddiwethaf.
"Er bod hyn yn is mae'n dal yn cyfateb i dri ysbyty mawr yn llawn cleifion Covid-19," meddai.
Ychwanegodd bod 32 o gleifion coronafeirws yn cael triniaeth mewn unedau gofal critigol - y nifer lleiaf ers 25 Mawrth.
Ond dywedodd Dr Goodall nad yw mwyafrif y rheiny sydd wedi cael Covid-19 wedi bod angen triniaeth ysbyty.
Pryder yn parhau am ail don
Er y gostyngiad yn nifer yr achosion newydd, dywedodd bod angen parhau i fod yn bwyllog o ran llacio'r cyfyngiadau er mwyn sicrhau bod modd i'r GIG ateb y galw.
"Rwy'n bryderus am y posibilrwydd o weld ail don, pryd bynnag allai hynny fod," meddai.
Ond ychwanegodd y bydd y GIG yn barod oherwydd y gwaith paratoi sydd eisoes wedi'i wneud, a bod y gwasanaeth iechyd bellach "wedi dysgu llawer mwy am y feirws".
Dywedodd Dr Goodall hefyd y bydd mwy o ofal deintyddol ar gael i gleifion o 1 Gorffennaf.
Cleifion sydd wedi cael problemau yn ystod y cyfnod clo fydd yn cael blaenoriaeth, meddai.
Ychwanegodd bod angen bod yn bwyllog wrth ailagor y gwasanaethau hynny hefyd, ac mai dim ond apwyntiadau brys fydd yna i ddechrau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd27 Mai 2020
- Cyhoeddwyd29 Mehefin 2020