Prifysgolion yn astudio DNA paill i geisio deall clefyd y gwair
- Cyhoeddwyd
Mae dwy brifysgol yng Nghymru yn rhan o brosiect ymchwil allai helpu dioddefwyr clefyd y gwair ledled y Deyrnas Unedig.
Mae ymchwilwyr o brifysgolion Aberystwyth a Bangor yn astudio DNA paill er mwyn gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o baill glaswellt.
Maen nhw'n astudio'r DNA oherwydd hyd yn oed wrth edrych ar baill o dan y microsgop mwyaf pwerus mae gwahanol fathau yn ymddangos union yr un fath - ond gall rhai effeithio ar ddioddefwyr clefyd y gwair yn fwy nag eraill.
Hefyd, mae gwahanol fathau o wair yn blodeuo ac yn rhyddhau eu paill ar wahanol adegau ac er y gall paill bara am amser hir, mae'n gwasgaru'n eithaf cyflym fel nad yw'n bresennol yn yr un lle ar ôl ychydig wythnosau.
Gobaith yr ymchwilwyr yw nodi pa fathau o baill glaswellt sy'n achosi'r adweithiau alergaidd mwyaf cyffredin.
Eu nod yw darparu gwell gwybodaeth i ddioddefwyr a hefyd o bosibl osgoi'r rhywogaethau hynny pan fydd caeau neu ardaloedd o laswelltir yn cael eu creu wrth adeiladu ysgolion neu ystadau tai.
Mae'n cael ei amcangyfrif bod tua 13 miliwn o ddioddefwyr clefyd y gwair ledled y DU.
Yn ôl elusen Allergy UK, fe allai gostio £7bn i'r economi mewn cynhyrchiant coll pan fydd rhaid i bobl gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith pan fydd eu symptomau ar eu gwaethaf.
Yn ogystal â'r sefydliadau yng Nghymru, mae prifysgolion yng Nghaerwrangon a Chaerwysg hefyd yn rhan o'r prosiect.
Mae'r ymchwilwyr hefyd yn gweithio gyda'r Swyddfa Dywydd i ddefnyddio trapiau casglu paill i ddal y mathau gwahanol sydd yn yr awyr ar adegau penodol.
Yna gallan nhw groesgyfeirio'r wybodaeth honno gyda data o feddygfeydd ac ysbytai sy'n dangos yr adegau pan fydd pobl yn gofyn am wrth-histaminau i drin clefyd y gwair, neu yn gorfod mynd i'r ysbyty gyda symptomau mwy difrifol.
Yn y dyfodol maen nhw'n gobeithio y bydd rhagolygon y tywydd - yn ogystal â nodi a yw lefelau paill yn isel, canolig neu'n uchel - hefyd yn gallu cynnwys mwy o fanylion am y gwahanol fathau o baill sydd mewn ardaloedd gwahanol.
Osgoi rhywogaethau alergenig
"Gallwn ddyfalu pryd mae paill yn cael ei ryddhau o weld pryd mae'r gwahanol laswelltau'n blodeuo," meddai Dr Gareth Griffiths o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.
"Ond mae'r data sydd gennym ni ar ôl i ni ddal y grawn paill o'r awyr ac yna dadansoddi'r DNA yn dweud wrthym yn union pa gyfrannau o bob math o laswellt sydd yn yr aer, a hefyd sut mae hynny'n amrywio o'r gogledd i'r de a'r dwyrain i'r gorllewin ar draws ynysoedd Prydain."
Dywedodd yr Athro Simon Creer, o Brifysgol Bangor: "Os gallwn adnabod y rhywogaethau o laswellt sy'n cyfrannu mwy at y llwyth alergenig yna mae hynny'n dweud wrthym sut y gallwn geisio osgoi'r rhywogaethau hynny pryd bynnag y bo modd.
"Os gwelwn bigyn mewn math arbennig o baill ar yr un pryd ag y mae clefyd y gwair yn cynyddu gallwch weithio allan ble mae'r mannau gwaethaf a pha baill sydd yn yr ardal honno."
Ychwanegodd yr Athro Creer y gallai'r ymchwil hyd yn oed ymestyn i wneud argymhellion i wneuthurwyr tyweirch a chynhyrchwyr hadau glaswellt ynghylch pa rywogaethau o laswellt sy'n achosi'r symptomau gwaethaf, a allai olygu cynghori datblygwyr i'w hosgoi wrth adeiladu ysgolion, ysbytai newydd neu ystadau tai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2020