Cyn-fatiwr Morgannwg yn derbyn cap ar ôl hanner canrif

  • Cyhoeddwyd
Alan JonesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Chwaraeodd Alan Jones gyda Morgannwg am 26 mlynedd

Mae cyn-gricedwr Morgannwg, Alan Jones, wedi cael ei gyflwyno gyda chap Lloegr - 50 mlynedd ers ei unig ymddangosiad rhyngwladol.

Mae Jones, 81, wedi cael ei gydnabod gan Fwrdd Criced Cymru a Lloegr fel chwaraewr Lloegr hanner canrif wedi iddo wynebu tîm Gweddill y Byd yn Lord's.

Roedd y ffaith na dderbyniodd gap yn cael ei ystyried fel un o anghyfiawnderau criced Lloegr a chwaraeon yng Nghymru.

Mae'r Cyngor Criced Rhyngwladol wedi gwrthod rhoi statws Prawf i'r gyfres pum gêm yn 1970 ac felly nid yw ymddangosiad Jones wedi cyfrif fel un swyddogol.

Derbyniodd Jones yr anrhydedd mewn cyflwyniad rhithiol oedd yn cynnwys capten presennol Lloegr, Joe Root, cadeirydd y Bwrdd Criced, Colin Graves a'r rheolwr gyfarwyddwr, Ashley Giles.

Bu ei gyn-chwaraewr yn Morgannwg, Tony Lewis, a phrif weithredwr y sir, Hugh Morris hefyd yn ei longyfarch.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Alan Jones gyda'r cap a'r siwmper wisgodd wrth gynrychioli Lloegr yn erbyn tîm Gweddill y Byd yn 1970

Jones sydd yn dal y record am y chwaraewr sydd heb chwarae gêm Brawf i sgorio'r nifer fwyaf o rediadau mewn criced dosbarth cyntaf - cyfanswm o 36,049.

Roedd yn aelod o dîm Morgannwg a enillodd Bencampwriaeth y Siroedd yn 1969 a bu hefyd yn gapten a hyfforddwr y sir yn ogystal â bod yn Llywydd rhwng 2016 a 2019.

Ar ôl ymddeol fel chwaraewr, bu hefyd yn gweithio fel sylwebydd gyda S4C.

"Er nad yw'r llyfrau hanes yn nodi Alan fel chwaraewr dderbyniodd gap rhyngwladol roedd Bwrdd Criced Cymru a Lloegr eisiau cydnabod ei ymddangosiad dros Loegr a dathlu ei yrfa anhygoel," meddai Graves.

Dywedodd Hugh Morris: "Mae wedi cael dylanwad mawr ar griced ar bob lefel trwy Gymru ac fe fydd pawb yn dathlu gydag Alan a'i deulu wrth iddo dderbyn anrhydedd y mae'n llawn haeddu."