Llifogydd yn y Rhondda wedi rhybuddio am ddifrod stormydd

  • Cyhoeddwyd
Mae Pentre yn y Rhondda wedi cael ei effeithio gan lifogydd yn dilyn glaw trwm ddydd MercherFfynhonnell y llun, Wales news service
Disgrifiad o’r llun,

Mae Pentre yn y Rhondda wedi cael ei effeithio gan lifogydd yn dilyn glaw trwm ddydd Mercher

Mae adroddiadau o lifogydd yn ne Cymru yn dilyn rhybudd am doriadau cyflenwadau trydan a difrod i adeiladau gan lifogydd, mellt a gwyntoedd cryfion.

Mae rhybudd y Swyddfa Dywydd mewn grym rhwng 12:00 a 00:00 dros 20 o siroedd Cymru, ac fe allai amharu ar drafnidiaeth gyhoeddus, ac fe allai rhai ffyrdd gau.

Mae trigolion yn Pentre, yn Rhondda Cynon Taf, wedi bod yn son ar wefannau cymdeithasol eu bod wedi cael eu heffeithio yn dilyn glaw trwm.

Mae'r gymuned eisoes wedi dioddef eleni yn sgil llifogydd a ddisgrifiwyd fel rhai "erchyll" gan drigolion.

Mae Aelod Rhondda Senedd Cymru Leanne Wood wedi apelio ar Twitter i bobl gyfrannu tyweli neu fagiau tywod.

Ffynhonnell y llun, Met Office
Disgrifiad o’r llun,

Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd y bydd glaw eithriadol o drwm mewn mannau

Daw'r adroddiadau yn Rhondda yn dilyn rhybudd am fellt a tharanu dros y rhan fwyaf o Gymru wedi cael ei gyhoeddi, ac fe allai fod yn storm niweidiol.

Ychwanegodd y Swyddfa Dywydd bod posibilrwydd bach y gallai dŵr o lifogydd beryglu bywydau.

Y siroedd dan sylw yw Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Casnewydd, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen, Bro Morgannwg a Wrecsam.