Cyn-ohebydd BBC a phregethwr yn wynebu cyhuddiadau rhyw

  • Cyhoeddwyd
Ben Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Gadawodd Ben Thomas y BBC yn 2005 i fod yn bregethwr

Mae cyn-arweinydd eglwys a chyn-ohebydd gyda BBC Cymru wedi ymddangos yn y llys wedi ei gyhuddo o ymosod yn anweddus ar blant ac oedolion.

Mae'r cyhuddiadau yn erbyn Ben Thomas, sy'n 44 oed, yn ymestyn dros gyfnod o bron i 30 mlynedd.

Ymddangosodd yn Llys Ynadon Llandudno brynhawn Gwener a chafodd ei ryddhau ar fechnïaeth.

Bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ar 17 Gorffennaf.

Bu Mr Thomas yn gyflwynydd a gohebydd i adran newyddion BBC Cymru, yn gweithio ar y rhaglen newyddion i blant, Ffeil, a Wales Today.

Yn 2005, gadawodd y BBC i fynd i bregethu ar strydoedd Llundain, cyn dychwelyd i Gymru yn 2008 i arwain eglwys efengylaidd yng Nghricieth, Eglwys Deuluol Cricieth. Gadawodd ei swydd yno'r llynedd.

Disgrifiad o’r llun,

Fe ymddangosodd Ben Thomas yn y llys ddydd Gwener

Mae Mr Thomas, sydd bellach yn byw yn Y Fflint, yn wynebu 40 o gyhuddiadau.

Mae'r rhain yn cynnwys ymosodiadau rhyw, voyeuriaeth a cham-drin plant ar-lein.

Honnir i'r troseddau ddigwydd mewn lleoliadau ledled gogledd Cymru, Sir Amwythig, Llundain, a Romania, a hynny dros gyfnod o 29 mlynedd, gyda'r drosedd honedig gyntaf yn digwydd ym 1990, a'r ddiweddaraf yn 2019.

Mae Heddlu'r Gogledd yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth sy'n berthnasol i gysylltu â nhw drwy e-bostio OperationBlueQuartz@nthwales.pnn.police.uk neu ffonio 101 a dyfynnu 'Operation Blue Quartz'.